Ymddygiad

Mae’r cyhoedd yn disgwyl y safonau ymddygiad moesegol gorau gan bob un o weithwyr llywodraeth leol ac mae hawl ganddynt i fynnu’r safonau hynny. Byddai hyder y cyhoedd yn hygrededd ac uniondeb y gweithwyr yn cael ei danseilio petai unrhyw amheuaeth –pa mor ddi-sail bynnag y bo – y gallai ystyriaethau personol ddylanwadu arnynt. Cydymddiredaeth yw sylfaen y contract cyflogaeth rhwng y Cyngor a’i holl weithwyr.

 Mae’r safonau ymddygiad hyn yn cynnig cyfeiriad ynglŷn â sut y dylech chi ymarweddu er mwyn gwarchod rhag unrhyw weithred a allai danseilio’r ymddiriedaeth honno. Mae’r safonau ymddygiad hefyd yn cynnig arweiniad ynglŷn â sut mae ymddwyn wrth ddelio â chydweithwyr mewnol ac allanol, Cynghorwyr, aelodau o’r cyhoedd, a chontractwyr megis cyflenwyr, darparwyr, ymgynghorwyr a staff dros dro. Mae’n rhaid i chi ddilyn y safonau ymddygiad hyn ac mae’n rhaid i chi ddeall eu bod wedi’u corffori yn eich contract cyflogaeth. Os na wnewch chi gadw at y safonau hyn byddwch yn wynebu achos ffurfiol.

Mae Cod Ymddygiad y Cyngor ar gael i chi ei weld yma. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn deall gofynion y polisi hwn. Mae’n rhaid cadw at God Ymddygiad y Cyngor ar bob adeg.