Rhoddion a lletygarwch

Gall unrhyw un y buoch yn ymwneud ag ef/â hi roi rhoddion a lletygarwch i chi a thrwy wneud hynny gall fod yn ceisio dylanwadu arnoch chi fel un o staff y Cyngor.
Er mwyn sicrhau tryloywder, uniondeb ac ymddiriedaeth y cyhoedd, eich cydweithwyr a’r holl gyflenwyr, yn gyffredinol ni ddylech dderbyn unrhyw roddion neu letygarwch.
Mae’n rhaid i unrhyw swyddog sydd am dderbyn lletygarwch sicrhau ei fod yn llanw Ffurflen Datgelu Lletygarwch y Cyngor. Gellir defnyddio’r datganiad hwnnw fel dull o awdurdodi unigolion cyn iddynt dderbyn lletygarwch os yw hynny er lles y Cyngor Sir. Ar ôl cymeradwyo derbyn y ffurflen caiff ei chadw ar y Gofrestr Ganolog o Ddatganiadau.

I gael rhagor o wybodaeth am roddion a lletygarwch derbyniol ac annerbyniol yn ogystal â’r drefn ar gyfer cofnodi unrhyw roddion neu letygarwch, gweler y Polisi Datgelu a Chofrestru Lletygarwch a Buddiannau sydd ar Fewnrwyd y Cyngor.