Urddas yn y Gwaith

Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu polisi Urddas yn y Gwaith i ddisodli’r polisi Bwlio ac Aflonyddu blaenorol. Mae’r polisi yn amlinellu ymrwymiad y Cyngor i hyrwyddo amgylchedd lle gall gweithwyr weithio heb ofni cael eu bygwth, eu bwlio nac yn aflonyddu arnynt.

Mae’r polisi yn cyflwyno rôl Swyddog Datrys Gwrthdaro i gefnogi gweithwyr sy’n teimlo eu bod yn cael eu harasio. Rydym yn awyddus i recriwtio tri gwirfoddolwr, ar draws y Cyngor, i gyflawni’r rolau hyn.