Gweithdrefnau Disgyblu

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr teg a rhesymol. Mae’n ofynnol i chi arddel safonau priodol a chydymffurfio â’n polisïau ni, ein harferion a’n gweithdrefnau ar bob adeg.
Lle bo hynny’n bosib, byddwn yn ceisio datrys problemau sy’n ymwneud ag ymddygiad mewn modd anffurfiol.

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y rheolwyr yn nodi unrhyw ddiffygion sy’n ymwneud ag ymddygiad trwy’r prosesau rheoli perfformiad a goruchwylio beunyddiol, a byddant yn rhoi adborth a chymorth priodol. Fodd bynnag, weithiau mae angen delio â mater yn ffurfiol trwy’r Polisi Disgyblu.