Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y Gweithle

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi’n llwyr yr egwyddor o gyfle cyfartal yn y gwaith ac mae’n gwrthwynebu unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon neu annheg ar sail lliw, hil, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, statws priodasol neu anabledd.

Mae pob aelod o’r staff yn gyfrifol am sicrhau bod y Cynllun Cydraddoldeb Sengl yn cael ei roi ar waith yn eu gweithgareddau beunyddiol.   Rydym yn eich annog chi i ymweld â’r dudalen Cydraddoldeb o dan Staff Newydd ar ceri-net.