Datganiad o faterion a allai effeithio ar eich cyflogaeth

Disgwyliwn i chi weithredu’n hollol onest bob amser. Os byddwch yn destun ymchwiliad, os cewch eich cyhuddo, eich gwysio, eich cael yn euog neu os cewch chi rybudd llafar neu ysgrifenedig mewn perthynas ag achos troseddol, yna bydd gofyn i chi roi gwybod i’ch rheolwr ar unwaith. Os na wnewch chi hynny caiff camau ffurfiol eu cymryd a gellid ystyried hynny ynddo’i hun yn gamymddwyn difrifol o dan y drefn ddisgyblu.