Yr Iaith Gymraeg

Mae’r Cyngor yn rhoi pwyslais ar ddarparu gwasanaeth o ansawdd da, yn Gymraeg neu yn Saesneg, wrth i ni ddelio ag aelodau o’r cyhoedd. Mae gan ddefnyddwyr gwasanaeth yr hawl i gyfathrebu â’r Cyngor yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bob gohebiaeth newydd gan y Cyngor gael eu hanfon at y cyhoedd yn ddwyieithog. I gael mwy o wybodaeth am Safonau Iaith Cymraeg y Cyngor cliciwch yma.

Hefyd, yr ydym yn annog y staff i ddefnyddio’r Gymraeg. Er mwyn mynd ati i greu gweithle gwirioneddol ddwyieithog yr ydym wedi sefydlu ‘Iaith ar Waith‘ sy’n cynorthwyo’r staff, boed yn ddysgwyr neu’n siaradwyr rhugl, i wella eu sgiliau ieithyddol fel y byddant yn gallu siarad Cymraeg ar bob achlysur. Yr ydym yn annog ac yn cymell y staff i ddilyn cyrsiau dysgu Cymraeg. I gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael cysylltwch â Meryl Evans ar 01545 572708 neu ar ebost meryle@ceredigion.gov.uk.