Cyflogaeth arall

Mae’r Cyngor yn cydnabod y bydd rhai gweithwyr am wneud swyddi eraill yn ogystal â’r swyddi sydd ganddynt gyda’r Cyngor. Os ydych am wneud gwaith allanol am arian, boed hynny am dal neu gyflog neu ffi, gellid ystyried y byddai gwaith o’r fath yn tanseilio eich gallu chi i gyflawni eich dyletswyddau’n effeithiol neu y gallai gystadlu neu wrthdaro â buddiannau’r Cyngor ac, felly, byddai angen cydsyniad ysgrifenedig arnoch gan y Pennaeth Gwasanaethau ymlaen llaw i ymgymryd â gwaith o’r fath, ac ni fyddai’r cydsyniad hwnnw’n cael ei wrthod ar sail afresymol.