Cwynion

Os oes gennych chi broblemau neu bryderon ynglŷn â’r gwaith, eich amodau gwaith neu berthynas â chydweithwyr, cewch godi’r materion hynny gyda’r rheolwyr trwy Bolisi Cwyno’r Cyngor.  Mae’r materion isod yn gallu peri cwynion::

  • telerau ac amodau cyflogaeth
  • iechyd a diogelwch
  • cysylltiadau gwaith
  • bwlio ac aflonyddu
  • arferion gwaith newydd/newidiadau sefydliadol
  • gwahaniaethu.

Rydym yn annog cyfathrebu agored rhyngoch chi a’ch rheolwr er mwyn sicrhau bod unrhyw broblemau’n cael eu datrys yn gyflym ac er boddhad pawb dan sylw. Yna, bydd eich rheolwr llinell yn gallu eich cefnogi chi trwy drafodaeth anffurfiol i ddatrys unrhyw broblemau. Os bydd y broblem yn parhau, gweler y Polisi Cwyno sydd i’w weld ar y tudalen Polisiau.