Llawlyfr Staff

Diben y wybodaeth yn yr ardal hyn yw ceisio ateb y cwestiynau cyffredin am eich swydd gyda’r Cyngor ond nid yw’n ganllaw cyflawn. Dylid darllen y llawlyfr staff hwn ar y cyd â’ch cytundeb cyflogaeth. Oni bai y nodir fel arall nid yw’r cynnwys yn y llawlyfr hwn yn gytundebol a gall fod yn destun newid wrth i’r Cyngor adolygu ei bolisïau.

Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i ddiwygio’r llawlyfr hwn ac unrhyw bolisïau a gweithdrefnau ynddo o bryd i’w gilydd, a phan fo’n briodol, drwy ymgynghori â’r Undebau Llafur.

Os oes problem neu ymholiad gennych sy’n gysylltiedig â’ch swydd sydd heb ei ateb yn CERi-net, mynnwch air â’ch Rheolwr Llinell neu aelod o’r tîm Adnoddau Dynol.