Aelodaeth o sefydliadau eraill

Dylech ystyried aelodaeth o unrhyw glybiau neu sefydliadau y tu allan i’r Cyngor y gellid ystyried ei bod yn dylanwadu ar eich barn, eich canfyddiadau neu’ch gweithredoedd. Yn yr un modd, dylech ystyried unrhyw fuddiannau ariannol posibl sydd gennych chi neu ffrindiau personol i chi neu berthnasau yng nghyflenwyr neu gontractwyr y Cyngor.

Os oes gennych chi unrhyw fuddiannau neu berthynas o’r fath y gellid ystyried eu bod yn dylanwadu ar eich penderfyniadau neu’ch gweithredoedd fel gweithiwr, dylech roi gwybod yn ffurfiol i’ch Pennaeth Gwasanaethau yn ysgrifenedig.