Caffael

Mae’n rhaid i bob swyddog sy’n gwario arian y Cyngor ar nwyddau, ar waith neu ar wasanaethau, yn cydymffurfio â Rheolau Gweithdrefn Contractau’r Cyngor.
Mae’r canlynol ymhlith yr eitemau pwysig a geir yn y Rheolau Gweithdrefnau Contract:

  • Yr Egwyddorion Sylfaenol
  • Cyfrifoldebau’r Swyddogion
  • Cadw Cofnodion – Cytundebau’r Fframwaith

Mae copi o’r Rheolau Gweithdrefn Contractau ar dudalen y Polisïau a’r Strategaethau ar y Fewnrwyd.
Mae gan y Cyngor Gontractau a Fframweithiau ar gyfer gwahanol fathau o nwyddau a gwasanaethau ac nid oes dewis yn eu cylch, mae’n rhaid eu defnyddio.
Cewch fwy o wybodaeth am Gontractau a Fframweithiau’r Cyngor ar y Tudalennau Caffael ar y Fewnrwyd. Mae gan rai Adrannau eu Cynrychiolwyr Caffael eu hunain a gellir cysylltu â’r Adain Gaffael Ganolog am ragor o wybodaeth a chyngor.