Cyfrinachedd

Mae’n rhaid i bob data sy’n cael ei gasglu gan y Cyngor gydymffurfio â gofynion Deddf Diogelu Data 1998 a phob deddfwriaeth gysylltiedig arall, boed yn cael ei gasglu a’i storio ar bapur, cyfryngau cyfrifiadurol, y ffôn neu unrhyw ddull arall.

Mae’n bolisi gan y Cyngor y dylid trin gwybodaeth bersonol yn gywir, yn briodol, gyda pharch, yn gyfreithlon ac yn ddiogel er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth lawn â Deddf Diogelu Data 1998 a phob deddfwriaeth arall berthnasol. Mae’n bwysig bod y staff, yr Aelodau, asiantau’r Cyngor, y partner sefydliadau ac eraill, yn trin gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon ac yn briodol er mwyn cynnal ffydd defnyddwyr y gwasanaethau, y dinasyddion a defnyddwyr eraill o’r sector cyhoeddus a phreifat.

Ni ddylai’r staff ddatgelu gwybodaeth o’r fath i neb heblaw am uwch swyddogion y Cyngor a ystyrir yn gymwys o dan Gynllun Dirprwyo’r Cyngor.