Staff Newydd

Llongyfarchiadau ar ymuno â thîm Cyngor Sir Ceredigion.

Rydym yn falch iawn eich bod wedi dewis dod yn aelod o dîm Cyngor Sir Ceredigion. Hyderwn y byddwch yn teimlo bod y wybodaeth sydd ar y tudalennau ‘Staff Newydd’ yn ddefnyddiol yn ystod eich wythnosau cyntaf yn y gwaith ac y bydd o help i chi os ydych yn meddwl symud i’r ardal.

Cewch eich gwahodd i sesiwn sefydlu ffurfiol cyn bo hir . Hefyd, bydd eich Rheolwr Llinell wedi paratoi rhaglen benodol a fydd yn rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â’r gwaith a’r tîm ar eich cyfer. Yn y cyfamser, bydd y wybodaeth sydd ar y tudalennau hyn yn help i chi ddod yn gyfarwydd â gwaith y Cyngor a’ch rôl chi o fewn y gwaith hwnnw.