Ynglŷn â Chyngor Sir Ceredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn awdurdod unedol, sy’n cynnwys 42 o Gynghorwyr etholedig yn atebol yn ddemocrataidd i drigolion eu wardiau etholiadol unigol. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi mabwysiadu system “Gabinet” o weinyddu. Fel rheol bydd y Cabinet yn cwrdd yn swyddfeydd y Cyngor yn Aberaeron bob tair wythnos ac mae’n cyflawni swyddogaethau Gweithrediaeth ar ran yr Awdurdod.Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cyflogi 4,000 o aelodau staff sy’n darparu gwasanaethau beunyddiol. Mae prif swyddfeydd y Cyngor yn Aberaeron ac Aberystwyth ac mae swyddfeydd lleol hefyd yn Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan a Llandysul.

Eifion Evans
Prif Weithredwr: Eifion Evans

Gweler siart ein sefydliad yma.