Iechyd a Diogelwch

Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn amlinellu’r dyletswyddau sydd ar weithwyr a chyflogwyr o ran Iechyd a Diogelwch yn y gwaith. Mae Adran 7 yn nodi’r canlynol:

Bydd dyletswydd ar bob gweithiwr tra bydd yn y gwaith:

(a) i gymryd gofal rhesymol dros ei iechyd a’i ddiogelwch ei hun a phobl eraill a allai gael eu heffeithio gan ei weithredoedd neu’i ddiffyg gweithredu yn y gwaith; ac

(b) o ran unrhyw ddyletswydd neu ofyniad a osodir ar ei gyflogwr neu unrhyw berson arall drwy unrhyw un o’r darpariaethau statudol perthnasol neu oddi tanynt, cydweithio gydag ef fel bo angen i gyflawni’r ddyletswydd neu’r gofyniad neu i gydymffurfio â hwy.

Hefyd, dywedir yn Adran 8:

Ni ddylai neb ymyrryd yn fwriadol nac yn ddi-hid na chamddefnyddio dim byd sydd wedi ei ddarparu er budd iechyd, diogelwch neu les yn unol ag unrhyw un o’r darpariaethau statudol perthnasol.

Yn ogystal, fel un o staff y Cyngor gofynnwn i chi:

  1. ymgyfarwyddo â pholisi’r Cyngor ar iechyd a diogelwch, sydd i’w weld ar y fewnrwyd neu fe gewch gopi ohono gan eich rheolwr.
  2. hysbysu eich rheolwr llinell ynglŷn ag unrhyw ddamweiniau neu ddamweiniau fu bron â digwydd er mwyn eu cofnodi nhw yn y Llyfr Damweiniau neu Ddigwyddiadau neu ar-lein (gan ddefnyddio ffurflen IR1)
  3. sicrhau eich bod chi’n deall y trefniadau tân sydd ar waith ar gyfer eich man gwaith chi.

Argyfyngau

DYLID:

  • sicrhau eich bod yn gwybod am y gweithdrefnau argyfwng lleol, e.e. tanau, damweiniau, gollyngiadau, ac ati, a lleoliad eich cynorthwywyr cymorth cyntaf agosaf;
  • dilyn cyfarwyddiadau

NI DDYLID:

  • ymyrryd ag unrhyw eitemau neu ddeunyddiau a ddarperir ar gyfer delio ag argyfyngau na’u camddefnyddio;
  • ceisio delio â thân cyn canu’r larwm;
  • rhoi eich hunan mewn perygl.

Damweiniau, Digwyddiadau a Phroblemau Iechyd

DYLID:

  • roi gwybod i’ch Rheolwr Llinell am bob damwain a digwyddiad ac am achosion o bethau a fu bron â digwydd;;
  • cysylltu â’r Cynorthwyydd Cymorth Cyntaf os oes angen;
  • gwneud eich goruchwylydd yn ymwybodol o unrhyw gyflwr meddygol a allai beryglu eich iechyd a diogelwch neu a allai olygu bod angen cymorth cyntaf / triniaeth feddygol arnoch.

Cyffredinol

Mae modd osgoi y rhan fwyaf o ddamweiniau a salwch yn y gwaith! Fel arfer, cyfuniad o ddigwyddiadau sy’n eu hachosi. Mae nifer o ddamweiniau yn digwydd oherwydd bod rhywun wedi gwneud y peth anghywir neu am na wnaethant y peth iawn. Gallai eich esgeulustod beri anaf difrifol a/neu gallai hefyd beryglu pobl eraill gan achosi difrod mawr i offer ac adeiladau.
DYLID:

  • weithio’n daclus;
  • dilyn cyfarwyddiadau
  • sicrhau bod gorchudd digonol yn cael ei roi dros unrhyw gwtau a chlwyfau eraill;
  • gwisgo’r offer cywir ar gyfer diogelu eich hunan, e.e. menig, rhwydau gwallt , sbectol sy’n amddiffyn y llygaid, cyfarpar sy’n diogelu clustiau, ac ati;

NI DDYLID:

  • wneud gwaith peryglus ar eich pen eich hunan;
  • ymyrryd ag unrhyw eitemau neu ddeunyddiau a ddarperir ar gyfer delio ag argyfyngau na’u camddefnyddio;
  • gweithredu offer os nad ydych wedi cael hyfforddiant i’w ddefnyddio.

Gweithfannau

Gweithfan yw’r lle y mae rhywun yn eistedd neu’n sefyll i weithio. Gall gweithio wrth weithfan sydd wedi’i gynllunio’n wael arwain at anesmwythyd  a hyd yn oed ddifrod hirdymor neu barhaol i’ch iechyd.
DYLID:

  • addasu eich gweithfan, gan gynnwys eich cadair, offer cyfrifiadurol, ac ati. gan sicrhau ei fod yn addas ar eich cyfer cyn ei ddefnyddio;
  • osgoi gormod o blygu, ymestyn, ac ati;
  • amrywio eich patrwm gwaith fel y gallwch dreulio amser rheolaidd o’ch gweithfan;
  • rhoi gwybod i’ch rheolwr llinell yn gynnar os oes unrhyw broblemau fel y gellid gwneud trefniadau ar gyfer asesiad manwl.

Codi a Chario

Mae hyn yn cynnwys codi, cario a gollwng, gwthio a thynnu. Mae damweiniau oherwydd technegau codi a chario gwael yn un o’r prif achosion o anafiadau yn y gwaith.
DYLID:

  • geisio lleihau faint o godi a chario yr ydych yn ei wneud;
  • cael golwg ar y llwyth cyn ei godi a’i gario;
  • sicrhau bod y llwybr at y man yr ydych yn bwriadu gollwng y llwyth yn addas;
  • gofynnwch am help os oes angen;
  • defnyddio’r cyfarpar a ddarperir i gynorthwyo â chodi a chario, e.e. trolïau, teclynnau codi, ac ati;
  • dal y llwyth wrth eich canol, yn agos at eich corff;
  • osgoi troi eich corff cyfan –trowch eich traed yn lle hynny;
  • plygu eich pengliniau i godi neu ollwng llwyth;
  • gofyn am hyfforddiant;
  • gwneud yn siŵr eich bod mewn rheolaeth lwyr o’r llwyth ac nad yw’r llwyth yn drech na chi

NI DDYLID:

  • geisio codi llwyth sy’n rhy drwm neu letchwith;
  • dal eich llwyth hyd braich;
  • plygu asgwrn eich cefn.

Mwy o wybodaeth

Mae cyfoeth o wybodaeth ynglŷn ag Iechyd a Diogelwch ar dudalennau Iechyd a Diogelwch Corfforaethol Cardinet. Cliciwch yma i ddarllen.