Cyfnod Prawf

Bydd pob gweithiwr newydd yng ngwasanaeth y Cyngor yn cael cyfnod prawf o chwe mis. Ar ddiwedd y chwe mis os nad oes yna bryderon am eich perfformiad, bydd eich rheolwr llinell yn cadarnhau eich penodiad.  Cewch gyfle hefyd i drafod dyletswyddau a chyfrifoldebau eich swydd a chadarnhau eu bod yn cyfateb â’r Disgrifiad Swydd. Os nad ydynt, efallai y bydd angen ailwerthuso eich swydd yn unol â Chynllun Gwerthuso Swyddi’r Cyngor.

Ar ddiwedd y cyfnod prawf neu yn ystod y cyfnod hwnnw, os nad yw’r Cyngor yn fodlon ar eich perfformiad gellid terfynu eich cyflogaeth (neu o dan amgylchiadau eithriadol, gellid ymestyn y cyfnod prawf er mwyn cynnal asesiad arall). Yn ystod y cyfnod prawf, gall y Cyngor derfynu eich cyflogaeth trwy roi wythnos o rybudd ysgrifenedig i chi (gellir rhoi tâl yn ei lle).

Y CYFNOD PRAWF

Ymgynefino: 

Dylai eich Rheolwr Llinell:

  • esbonio cyfrifoldebau’r swydd i chi
  • trefnu unrhyw hyfforddiant sydd ei angen arnoch
  • gosod amcanion ar gyfer eich 6 mis cyntaf yn y rôl
  • rhoi gwybod i chi y bydd dau gyfarfod adolygu yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod prawf o 6 mis
  • gosod dyddiad y cyfarfod adolygu cyntaf (a gaiff ei gynnal yn ystod yr ail fis)

Cyfarfod Adolygu 1af:

i’w gynnal yn ystod yr ail fis. Diben hwnnw yw:

  • adolygu eich perfformiad, eich ymddygiad, eich prydlondeb, eich absenoldeb oherwydd salwch a phresenoldeb
  • rhoi adborth adeiladol – tynnu sylw at yr hyn yr ydych wedi’i gyflawni yn ogystal ag unrhyw wendidau
  • gosod dyddiad ar gyfer y cyfarfod adolygu terfynol

Os oes unrhyw bryderon ynghylch eich perfformiad, eich ymddygiad, eich prydlondeb, ac ati, bydd eich rheolwr llinell yn esbonio’r safonau sy’n ddisgwyliedig a bydd yn gosod amcanion a thargedau ar eich cyfer ynghyd â nodi unrhyw gymorth, hyfforddiant neu arweiniad ychwanegol y bydd ei angen arnoch. Os na fyddwch yn bodloni’r safonau angenrheidiol, gellid ymestyn eich cyfnod prawf neu derfynu eich cyflogaeth.

Cyfarfod Adolygu Terfynol:

i’w gynnal yn ystod y pedwerydd mis. Diben hwnnw fydd:

  • adolygu eich perfformiad, eich ymddygiad, eich prydlondeb, eich absenoldeb oherwydd salwch a phresenoldeb
  • Rhoi adborth adeiladol – tynnu sylw at yr hyn yr ydych wedi’i gyflawni a sôn am unrhyw wendidau – gan roi enghreifftiau.

Os daw’n amlwg yn ystod y cyfarfod hwn bod eich perfformiad, eich ymddygiad, eich prydlondeb, eich absenoldeb oherwydd salwch neu’ch presenoldeb yn dal i beri pryder, yna bydd yn rhaid i’ch Rheolwr Llinell eich hysbysu y bydd y Cyngor yn eich gwahodd chi i gyfarfod i drafod y materion sy’n peri pryder ac y gallai hyn arwain at derfynu eich cyflogaeth neu i drafod ymestyn eich cyfnod prawf.

Bydd unrhyw gymorth neu gefnogaeth a nodwyd yn dal i gael eu cynnig yn ystod yr holl gyfnod prawf hyd at yr adeg y cewch gadarnhad y byddwch yn parhau yn eich swydd neu wybodaeth bod penderfyniad wedi’i wneud i’ch diswyddo.