Safonau’r Iaith Gymraeg

Bydd angen i bob aelod o staff i gydymffurfio â’r Safonau a ddaeth yn weithredol ar 30 Mawrth 2016, gan eu bod yn effeithio ar bob tîm o fewn holl wasanaethau’r Cyngor.

Pwrpas Safonau’r Iaith Gymraeg yw cynyddu a normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg fel bod siaradwyr Cymraeg yn gallu defnyddio’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd; o fewn eu cymuned, wrth gael mynediad at wasanaethau ac yn y gweithle os ydynt yn dewis gwneud hynny.

Mae’r Cyngor yn rhoi pwyslais ar ddarparu gwasanaeth o ansawdd da, yn Gymraeg neu yn Saesneg, wrth i ni ddelio ag aelodau o’r cyhoedd. Mae gan ddefnyddwyr gwasanaeth yr hawl i gyfathrebu â’r Cyngor yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bob gohebiaeth newydd gan y Cyngor gael eu hanfon at y cyhoedd yn ddwyieithog. Ar y pwynt cyswllt cychwynnol, rhaid cynnig dewis iaith gael ei gynnig a dylai swyddogion y Cyngor ddarparu gwasanaethau yn y dewis iaith honno.

Mae’n ofynnol i bob gwasanaeth i weithredu Safonau’r Iaith Gymraeg fel rhan o ddyletswydd statudol y Cyngor. Rhaid i staff roi ystyriaeth lawn i’r Safonau gan y gall diffyg cydymffurfio gael ei orfodi gan Gomisiynydd y Gymraeg drwy achosion cyfreithiol.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y safonau a’r canllawiau ar sut i’w gweithredu ar dudalen Safonau’r Iaith Gymraeg.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Swyddog Polisi Cydraddoldeb ac Iaith y Cyngor, Carys Lewis Morgan ar 01545 574194 neu
Carys.morgan@ceredigion.gov.uk