Trosolwg o’ch Contract

Mae’r llythyr sy’n cadarnhau eich penodiad a’r Datganiad Manylion yn amlinellu telerau ac amodau eich cyflogaeth. Yn gyffredinol, mae telerau ac amodau cyflogaeth, ar wahân i’r graddau a’r graddfeydd cyflog yn destun ymgynghoriad lleol â’r undebau llafur cydnabyddedig perthnasol.Mae’n bosibl y bydd y Telerau a’r Amodau a amlinellir yn y Datganiad Manylion yn eich cyfeirio chi at y polisïau a’r gweithdrefnau Adnoddau Dynol sy’n rhan o’ch contract cyflogaeth. Tynnir sylw at y rhain isod ac mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy glicio ar y ddolen.Chi sy’n gyfrifol am sicrhau eich bod yn cael mynediad at CERi-net yn rheolaidd er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pholisïau, gweithdrefnau a chodau ymarfer newydd neu ddiwygiedig y Cyngor. Caiff y rhain eu diwygio o bryd i’w gilydd i sicrhau arfer da a’u bod yn cydymffurfio â chyfraith cyflogaeth. Rydym hefyd wedi darparu dolenni at bolisïau a gweithdrefnau eraill nad ydynt yn rhan o’ch Telerau ac Amodau. Os nad ydynt yn rhan o’ch Telerau ac Amodau, caiff hyn ei nodi’n glir.

Manylion y Gweithiwr

Mae’r rhan hon yn cadarnhau eich manylion, eich swydd, y dyddiad y gwnaethoch chi ddechrau gyda’r Cyngor, hyd eich gwasanaeth, math o gontract h.y. a ydych ar gontract parhaol neu gontract cyfnod penodol / dros dro. Os ydych chi ar gontract cyfnod penodol, bydd y rhan hon yn nodi’r dyddiad y daw’r contract i ben. Bydd hefyd yn nodi’r rhesymau dros y penodiad cyfnod penodol.

Amodau eraill sy’n benodol i’r Swydd

Fel arfer, dangosir yr amodau penodol hyn yn Rhan 3 y contract e.e. y gofyniad i wisgo iwnifform, aelodaeth o gorff proffesiynol, sgiliau Cymraeg neu unrhyw ofynion eraill sy’n gysylltiedig â’ch swydd.

Cyflog

payBydd eich Datganiad Manylion yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’ch gradd, ystod eich cyflog a’ch cyflog cychwynnol.
Caiff nifer yr wythnosau y mae gofyn ichi eu gweithio, eich gwir gyflog a’ch cyfradd bob awr hefyd ei nodi.
Bydd y datganiad hefyd yn nodi y byddwch yn derbyn eich slip cyflog misol drwy Hunanwasanaeth CERi.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyflogau ar y tudalennau Cyflogau.

Oriau Dyletswydd

workingtime.pngBydd y rhan hon o’r Datganiad Manylion yn cynnwys manylion ynghylch yr wythnos waith a gweithio’n hyblyg . Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau oriau gwaith CERi-net.

Amodau cyffredinol y swydd

Y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol sy’n penderfynu ar brif delerau ac amodau eich cyflogaeth fel y’i hamlinellir yn y Cytundeb Cenedlaethol ar Gyflogau ac Amodau Gwasanaeth (a gaiff ei adnabod fel y Llyfr Gwyrdd).
Mae telerau ac amodau eraill o ran eich cyflogaeth wedi’u cynnwys mewn cytundebau a drafodwyd yn lleol gydag Undebau Llafur Penodol y mae Cyngor Sir Ceredigion yn eu cydnabod at ddibenion cydfargeinio (gweler Aelodaeth o Undeb Lafur isod).

Materion sy’n ymwneud ag ymddygiad Troseddol

disciplinaryFel un o weithwyr Cyngor Sir Ceredigion, mae gofyn i chi roi gwybod i’ch Rheolwr Llinell a’r Adain Adnoddau Dynol cyn gynted ag y bo modd ac yn ysgrifenedig os ydych yn destun ymchwiliad troseddol neu os ydych chi wedi cael eich cyhuddo, wedi cael cerydd neu rybudd terfynol neu os ydych chi wedi cael eich dyfarnu’n euog o drosedd.
Noder y bydd pob datganiad yn cael ei drin yn hollol gyfrinachol ac na fydd hyn o reidrwydd yn effeithio ar eich cyflogaeth. Os na wnewch chi roi gwybod am faterion o’r fath, gallai camau disgyblu gael eu cymryd yn eich erbyn chi.

Cod Ymddygiad

hands gesture positive okFel un o weithwyr Cyngor Sir Ceredigion, mae gofyn i chi gadw at y safonau sydd wedi’u cynnwys yng Nghod Ymddygiad y Cyngor Sir.
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r Cod Ymddygiad ar gael ar y tudalen  Ymddygiad.

Cyfnod Prawf

probationAm ragor o fanylion ynglŷn â’r cyfnod prawf, ewch at y tudalen Cyfnod Prawf .

Cymhwysedd

Efallai y bydd gofyn i chi fynd ar hyfforddiant, ennill cymwysterau neu fodloni’r safonau galwedigaethol er mwyn cyflawni eich dyletswyddau. Caiff manylion y gofynion hyn eu cynnwys yn rhan 3 o’r Datganiad Manylion. Os bydd y swydd yn gofyn am un o’r uchod, bydd rheidrwydd arnoch i fodloni’r gofynion hyn o fewn amser penodedig y bydd y Cyngor yn ei bennu.
Hefyd, bydd corff proffesiynol yn ei gwneud hi’n ofynnol i rai gweithwyr gael datblygiad proffesiynol parhaus. Lle bo’n briodol, bydd y Cyngor yn darparu adnoddau i chi fel y gallwch chi wneud hyn. Os na fyddwch chi’n cydymffurfio â’r uchod, gallai eich cyflogaeth gael ei derfynu.

Disgyblu

redcardEr mwyn bod yn deg ac yn effeithiol wrth ddelio â materion disgyblu, bydd y weithdrefn yn y Polisi Disgyblu yn berthnasol, ar wahân i’r adegau hynny pan roddir rhybudd anffurfiol am gamymddygiad cymharol fach. Mae manylion ynghylch y Polisi Disgyblu ar gael ar y tudalen Ymddygiad .
Os na fyddwch chi’n fodlon ag unrhyw benderfyniad disgyblu, cysylltwch â’r adain Adnoddau Dynol.
Ni fwriedir i’r Polisi Disgyblu fod yn rhan o’ch contract cyflogaeth.

Cwynion

Mae’r weithdrefn ar gyfer delio ag unrhyw gŵyn sy’n ymwneud â’ch gwaith wedi’i hamlinellu yn y Weithdrefn Gwyno. Mae’r manylion i’w gweld ar dudalennau Ymddygiad CERi-net.
Pe hoffech chi geisio unioni unrhyw gam, cysylltwch â’ch Rheolwr Llinell.

Ni fwriedir i’r Weithdrefn Gwyno fod yn rhan o’ch contract cyflogaeth.

Lle gwaith

Mae manylion eich lle gwaith arferol i’w weld ym ‘Manylion y Gweithiwr’ (fel arfer Rhan 2). Fodd bynnag, un amod penodol o’ch cyflogaeth yw’r angen i chi o bosib weithio mewn lleoliad arall o fewn y Cyngor. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â hawlio costau teithio, cliciwch yma..

Salwch

sicknessMae rhagor o wybodaeth ynglŷn â Pholisi Absenoldeb Oherwydd Salwch y Cyngor, y weithdrefn gysylltiedig a’r hawl i Dâl Salwch Galwedigaethol ar gael  yma.

Swyddi o dan gyfyngiadau gwleidyddol

O dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (fel y’i diwygiwyd) mae rhai o swyddi’r Cyngor yn rhai sydd dan gyfyngiadau gwleidyddol. Os yw’r cyfyngiadau hyn yn gymwys i chi fe gewch chi wybod pan gewch chi eich penodi.
Cewch fwy o wybodaeth yma.

Hawl i wyliau

holidaysMae Gwyliau Blynyddol pob gweithiwr yn dod o dan y Cytundeb Cenedlaethol ar Gyflogau ac Amodau ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol ynghyd ag unrhyw gytundebau lleol yn dilyn trafodaethau ag Undebau Llafur y mae’r Cyngor yn eu cydnabod at ddibenion cydfargeinio ar y cyd ar gyfer eich grŵp cyflogaeth.
Mae blwyddyn gwyliau’r Cyngor yn dechrau ar 1 Medi ac yn dod i ben ar 31 Awst. Mae rhagor o fanylion ynglŷn â hawl i wyliau i’w gweld ar dudalennau Gwyliau CERi-net.

Cyfnod Rhybudd

Gall y naill barti neu’r llall ddod â’r contract hwn i ben drwy hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud hynny. Mae manylion ynghylch y gofynion o ran y cyfnod rhybudd i’w gweld yma. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i derfynu eich cyflogaeth heb rybudd mewn amgylchiadau priodol.

Rheolau, Polisïau a Gweithdrefnau

emphandbookUn o amodau eich cyflogaeth yw eich bod yn cydymffurfio â’r rheolau, y polisïau a’r gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan y Cyngor.
Er mwyn osgoi amheuaeth, ni chyfeirir at y rheolau, y polisïau a’r gweithdrefnau hyn yn eich Contract Cyflogaeth a gallant gael eu newid, eu disodli neu eu tynnu’n ôl ar unrhyw adeg ac yn unol â disgresiwn y Cyngor ar ôl ymgynghori â’r Undebau Llafur y mae’r Cyngor yn eu cydnabod. Gallai torri rheolau, polisïau neu weithdrefnau’r Cyngor arwain at gamau disgyblu.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r rhain.
Mae manylion y rheolau, y polisïau a’r gweithdrefnau wedi’u hamlinellu yma. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r rhain.

Hawlfraint

Copyright symbolY Cyngor fydd yn berchen ar bob hawlfraint a hawliau eraill yn y gwaith a’r deunydd a baratoir gennych yn ystod eich cyflogaeth gyda’r Cyngor.

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

dpfMae manylion y cynllun pensiwn ar gael ar dudalennau Pensiynau CERi-net.

Aelodaeth o Undeb Lafur

Mae’r Cyngor yn cefnogi’r broses o gydfargeinio ac yn hyrwyddo datblygiad cysylltiadau gweithwyr drwy gyd-drafod, ymgynghori a chytuno. At ddibenion ymarferol, ni all hyn ond cael ei wneud gan gynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr.
Mae’r Cyngor yn parchu’ch hawl i fod yn aelod o undeb llafur o’ch dewis.
Mae’r Undebau Llafur canlynol yn cael eu cydnabod gan y Cyngor at ddiben cydfargeinio:
UNSAIN GMB UNITE UCATT

Cyfrinachedd

confidentialityY mae’n bolisi gan y Cyngor ei bod yn rhaid ymdrin â gwybodaeth bersonol yn gywir, yn briodol, gyda pharch, yn gyfreithlon ac yn ddiogel i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â Deddf Diogelu Data 1998 a deddfwriaeth gysylltiedig arall.
Mae rhagor o fanylion ar gael yma.
Ni fydd y cymal yma, fodd bynnag, yn eich atal chi rhag datgelu gwybodaeth i gydymffurfio â Gorchymyn Llys neu o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 neu i gyflawni unrhyw rwymedigaeth statudol.

Cynllun Atal Twyll Cenedlaethol

Mae Cyngor Sir Ceredigion, ynghyd â chyrff cyhoeddus eraill, yn cydweithio â’r Cynllun Atal Twyll Cenedlaethol a gyflwynwyd gan y Llywodraeth. Bwriad hyn yw gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus drwy ganfod a lleihau twyll lle bynnag y bo modd. Fel rhan o’r cynllun hwn ac fel amod o’r gwasanaeth, bydd y Cyngor o bryd i’w gilydd yn rhoi manylion ynghylch y gyflogres i Gyrff Statudol er mwyn eu paru â’r wybodaeth arall a gyflenwir.
Ymdrinnir â phob data o dan y trefniadau hyn yn unol â gofynion y Ddeddf Diogelu Data.

Caniatâd i Brosesu Data

Caiff data personol penodol yr ydych chi wedi’i roi i’r Cyngor, megis y wybodaeth a amlinellir yn eich cais am y swydd a’r ‘data sensitif’ y gofynnir amdani ar ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal yr Awdurdod, ei ddal ar gronfa ddata a system gwybodaeth Adnoddau Dynol y Cyngor.
Er mwyn caniatáu i’r Cyngor gyflawni ei swyddogaethau Rheoli Adnoddau Dynol cyfreithlon, ac yn benodol ei ddyletswydd o ran monitro cyfle cyfartal yn y gwaith, mae angen ‘prosesu’ data personol o’r fath, yn unol â’r ddarpariaeth a’r egwyddorion a amlinellir yn Neddf Diogelu Data 1998.
Trwy lofnodi’r contract cyflogaeth, ystyrir eich bod chi, gwrthrych y data, wedi rhoi eich caniatâd i brosesu data o’r math hwn ddigwydd.

Newidiadau yn y dyfodol

Cewch wybod am unrhyw newidiadau yn eich telerau a’ch amodau pan fyddant yn codi.