Cynefino

Cynhelir sesiwn sefydlu corfforaethol ffurfiol ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn. Bydd gofyn ichi fynychu fel y cyfarwyddir gan eich Rheolwr Llinell.

Yn ogystal, mae gan bob Gwasanaeth ei raglen gynefino ei hun ar gyfer staff newydd. Pwrpas y rhaglenni cynefino yw sicrhau bod staff newydd yn llawn ddeall nodau ac amcanion y gwasanaeth gan gynnwys y cyfraniad y mae’r gwasanaethau’n ei wneud at gyflawni’r weledigaeth gorfforaethol gyffredinol.

Ar ôl dilyn rhaglen gynefino byddwch chi’n deall swyddogaethau’r timau sydd yn yr un gwasanaeth â chi a byddwch yn gyfarwydd â staff allweddol y gwasanaeth hwnnw. Bydd y rhaglen gynefino’n fodd i chi fod mor effeithiol ag sy’n bosibl pan fyddwch chi’n dechrau ar eich gwaith.

Am wybodaeth bellach am bob gwasanaeth cliciwch ar y dolenni isod.