Diogelu a Chwythu’r Chwiban

Mae diogelu’n golygu amddiffyn iechyd pobl, eu lles a’u hawliau dynol, a’u galluogi nhw i fyw heb niwed, camdriniaeth ac esgeulustod. Mae dyletswydd ar y Cyngor i ddiogelu ac amddiffyn grwpiau bregus (plant ac/neu oedolion) sy’n derbyn gwasanaethau gan y Cyngor ac o fewn y gymdeithas ehangach. Felly, rydym yn gofyn i’n staff i fod yn wyliadwrus o unrhyw beryglon posibl o niwed i eraill. Yr ydym yn annog staff sydd â phryderon am ddiogelwch plant ac/neu oedolion i weithredu ar y pryderon hynny. Os oes gennych chi bryderon, siaradwch â’ch cydlynydd diogelu dynodedig neu siaradwch â’r gweithiwr cymdeithasol sydd ar ddyletswydd trwy gysylltu â’r ganolfan gyswllt ar: 01545 574000

‘Mae Diogelu Plant ac Oedolion Bregus yn fater i bawb ’

Chwythu’r Chwiban

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i’r safonau uchaf posibl o ran bod yn agored, ac o ran uniondeb ac atebolrwydd. Yr ydym wedi ymrwymo i gynnal ein busnes gyda gonestrwydd ac uniondeb, a disgwyliwn i’r holl staff gadw at y safonau uchaf. Fodd bynnag, mae pethau’n gallu mynd o chwith ym mhob corff o dro i dro, neu fe all ymddygiad anghyfreithlon neu anegwyddorol fod ar waith yn ddiarwybod i bawb. Mae’n hanfodol cynnal diwylliant o fod yn agored ac yn atebol fel na fydd y fath amgylchiadau’n codi, neu fynd i’r afael â nhw pan fyddant yn codi. Y staff yn aml yw’r rhai cyntaf i sylweddoli bod rhywbeth o’i le yn y Cyngor. Felly, yr ydym yn annog gweithwyr ac eraill sydd â phryderon difrifol ynglŷn ag agweddau ar waith y Cyngor i fynegi’r pryderon hynny. Fodd bynnag, efallai y byddai rhai staff yn teimlo y byddent yn gwneud cam a’u cydweithwyr ac â’r Cyngor petaent yn gwneud hynny. Efallai fod ofn arnynt y byddai rhywun yn dial arnynt neu’n herlid am fynegi eu pryderon. Mae’r Polisi sydd gan y Cyngor ar gyfer Chwythu’r Chwiban yn nodi’n glir y caiff y staff fynegi unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw heb ofni dial. Mae’r polisi:

  • yn annog y staff i roi gwybod cyn gynted ag y bo modd os ydynt yn meddwl bod drwgweithredoedd ar waith, gan wybod y bydd eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifri’ ac y bydd rhywun yn ymchwilio iddyn nhw fel bo’n briodol, ac y caiff cyfrinachedd y staff ei barchu.
  • yn cynnig canllawiau a ffyrdd i’r staff godi pryderon a chael adborth ynglŷn ag unrhyw gamau a gymerir
  • yn caniatáu i’r staff fynd â materion ymhellach os ydyn nhw’n anfodlon ar ymateb y Cyngor
  • sicrhau’r staff y gallant godi pryderon gwirioneddol heb ofni dialedd ac erledigaeth am chwythu’r chwiban, hyd yn oed os oeddynt yn anghywir yn y pen draw

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch Chwythu’r Chwiban ar gael ar y Fewnrwyd.

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd / Recriwtio Diogel

Yn undbsol â’r ddyletswydd sydd arnom i sicrhau diogelwch grwpiau bregus sy’n cael gwasanaeth gan y Cyngor ac yn y gymdeithas yn gyffredinol mae dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau bod pawb y mae’n ei gyflogi’n addas beth bynnag fo’i swydd. Mae’r Polisi Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd/Recriwtio Diogel yn gosod y prosesau a’r safonau sydd gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cadw at y dyletswyddau hynny.
Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn fodd i gyflogwyr weld a oes gan weithwyr a darpar weithwyr hanes o droseddu, er mwyn canfod a ydynt yn addas i weithio gydag oedolion ac/neu blant bregus. Ar gyfer unigolion sy’n gweithio mewn swyddi neilltuol, mae datgeliad dilys gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn rheidrwydd cyfreithiol.
Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd/Polisi Recriwtio Diogel yn gymwys i holl staff Cyngor Sir Ceredigion sydd wedi eu penodi o dan delerau ac amodau eu cyflogaeth yn ogystal â sefyllfaoedd eraill lle bo angen tystysgrif Datgelu a Gwahardd, e.e. gwirfoddolwyr, lleoliadau myfyrwyr, staff asiantaethau, contractwyr allanol, gwasanaethau a gomisiynir, Maethu a Mabwysiadu, Llywodraethwyr Ysgolion ac aelodau’r Cyngor.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gorff cofrestredig lle mae tystysgrifau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn y cwestiwn ac ni fydd yn gofyn am archwiliad onid yw hynny’n addas ac yn berthnasol o ran y swydd sydd dan sylw a lle bo hynny’n ofynnol yn statudol.