Dysgu a Datblygu

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn sylweddoli ac yn gwerthfawrogi bod ei weithlu’n allweddol ar gyfer cyflawni nod ac amcanion y Cyngor.

Mae wedi ymrwymo i gefnogi staff trwy ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu i gwrdd â’r heriau cyfnewidiol sy’n wynebu Llywodraeth Leol heddiw. Ei nod yw sicrhau bod staff hynod fedrus a chymwys yn darparu gwasanaethau o safon uchel ar gyfer pobl Ceredigion.

Mae Strategaeth Gorfforaethol Ceredigion yn cynnwys fel un o’i pum amcan:

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn sefydliad sy’n addas at y diben o ddarparu gwell gwasanaethau i fodloni anghenion ein dinasyddion;

Mae’r Tîm Dysgu a Datblygu, fel rhan o’r Gwasanaeth Adnoddau Dynol, yn hwyluso ac yn cyd-drefnu cyfleoedd dysgu a datblygu i gwrdd ag anghenion unigolion, timau a meysydd gwasanaeth. Caiff y rhaglen ei datblygu a’i chyflenwi gan Swyddogion Hyfforddi a hwyluswyr mewnol cymwys a medrus, a hwyluswyr allanol ar gyfer hyfforddiant arbenigol.