Rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansiad ein Rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM Lefel 4. Fe fydd carfan yn dechrau yn mis Medi 2018 a fe fydd un arall ar dyddiad hwyrach.
“Mae Grŵp Arweinyddiaeth y Cyngor wrth eu bodd yn cynnig cyfle i reolwyr o’r holl Wasanaethau i ymgymryd â’r rhaglen ILM. Bydd y cyfle hyn yn cyflawni’r ymrwymiad o fewn Cynllun Gweithlu 2017-2022 i gryfhau gallu arweinyddiaeth a sicrhau bod gan arweinwyr a rheolwyr y sgiliau i ddatblygu a chymell timau ac unigolion sy’n perfformio’n arbennig.”
Ar gyfer pwy mae’r rhaglen?
Datblygwyd y rhaglen hon ar gyfer rheolwyr canol ac uwch reolwyr sydd eisoes mewn rôl arweinyddiaeth. Mae angen ichi fod yn gyfrifol am gynllunio a gweithredu gweithredol, rheoli newid, a dylanwadu ar eraill yn y sefydliad. Bydd y rhaglen hon yn eich helpu i fyfyrio ar eich dull o arwain, ac i gymryd camau i ddatblygu ymhellach fel arweinydd.
Er mwyn cymryd rhan rhaid ichi fod â TGAU/TAU Gradd A-C mewn Saesneg a Mathemateg – neu gymhwyster cyfwerth. Bydd angen darparu copïau o’r tystysgrifau.
Pa gymwysterau fydd gen i ar ôl y cwrs?
Diploma ILM Lefel 4 mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Diploma ILM NVQ Lefel 4 mewn Rheolaeth
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2
Llinell Amser ac Ymrwymiadau’r Cwrs
- Cwrs deunaw mis o hyd
- 1 Diwrnod o Ymsefydlu, Cofrestru ac ‘Asesu’ Sgiliau (Llythrennedd Digidol, Mathemateg a Saesneg)
- 5 Diwrnod o Weithdai Gorfodol (gyda mis o fwlch rhwng bob un)
- Dewis o unedau opsiynol sy’n cyd-fynd â’ch rôl, a gyflenwir un i un dros ddeunaw mis. Bydd aseswr yn ymweld â chi unwaith y mis am 2-3 awr i gwblhau’r rhain ‘yn y gwaith’.
- Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol (T.G.) – Gweithdy undydd ac yna tasg 5 awr a thrafodaeth gyda’ch aseswr. Mae’r gweithdy’n opsiynol, ond bydd angen ichi gwblhau’r dasg a’r drafodaeth (eich dewis chi, yn dibynnu ar eich profiad, a gellir ei drafod yn llawn gyda’ch aseswr).
5 Gweithdai Gorfodol
- Pwy fyddai am gael eu harwain gennych chi?
- Arweinydd yr 21ain Ganrif
- Sefydliadau Perfformiad Uchel
- Cyflawni’r Genhadaeth
- ‘Shift Happens’
Gweithdai Gorfodol – Asesiad
- 5 aseiniad (un yn dilyn pob gweithdy gorfodol)
- Adborth i’r aseiniad ar e-blatfform o fewn pythefnos o’i gyflwyno
- Amser astudio personol (2-3 awr yr wythnos ar gyfartaledd).
Unedau Opsiynol – Asesiad
Mi fydd angen ichi gwblhau nifer o unedau opsiynol sy’n cael eu hasesu ‘yn y gwaith’, gan ddefnyddio dulliau amrywiol megis trafodaethau proffesiynol, datganiadau tystion, arsylwi’ch gwaith, a rhai tasgau ysgrifenedig. Bydd y dulliau asesu’n amrywio, yn dibynnu ar eich dewis o unedau. Bydd hyn yn cael ei esbonio gan eich aseswr, gyda’r unedau’n cael eu cwblhau ‘yn y gwaith’ drwy gydol y rhaglen deunaw mis o hyd.
Cymorth
Mae pob gweithdy gorfodol wedi’i gynllunio i gyflwyno’r theori a chaniatáu amser i ddechrau gweithio ar eich aseiniad. Mae hynny’n sicrhau eich bod yn gadael pob gweithdy gydag amlinelliad cychwynnol o’ch aseiniad. Mae cymorth ar gael gan diwtoriaid y tu allan i’r gweithdai os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich aseiniadau.
Byddwch yn cael mynediad i ‘e-blatfform’ ar-lein er mwyn cyflwyno’ch gwaith a thracio’ch cynnydd trwy gydol y rhaglen. Bydd eich aseswr yn eich cynorthwyo gyda hyn.
Sut i Wneud Cais
I wneud cais am le:
Llenwch y Ffurflen Gais / Cytundeb Dysgu a’i ddychwelyd i dysgu@ceredigion.gov.uk er 25ain Mehefin 2018.
Bydd y Panel Cymwysterau Corfforaethol yn cwrdd yng Ngorffennaf i ystyried y ceisiadau.
Bydd y meini prawf a ystyrir ganddynt er mwyn dethol yn cynnwys:
- Y cyfleoedd o fewn eich rôl i ddatblygu a rhoi cynlluniau gweithredol ar waith, i reoli newid ac i hyrwyddo perfformiad drwy eich tîm
- Y buddiannau i chi a’ch maes gwasanaeth
- Rhoir blaenoriaeth i’r rhai sydd heb unrhyw gymwysterau arweinyddiaeth
Cwestiynau
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rhaglen, dylech e-bostio dysgu@ceredigion.gov.uk