Hyfforddi i fod yn weithiwr cymdeithasol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig nifer fach o gyfleoedd i staff ymgymryd â hyfforddiant gwaith cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae hyn yn gyfle blynyddol ond gall hyn newid yn y dyfodol.
Mae’r rhaglen hyfforddiant yn cael ei rheoli gan y Tîm Dysgu a Datblygu, ac wedi’i chefnogi’n llwyr gan Dimau Gwaith Cymdeithasol y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae’n rhaglen 3 blynedd, sy’n cynnwys gwaith academaidd ac ymarfer dysgu wedi’i ddarparu ar draws Ceredigion o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol, y sector gofal annibynnol a gwirfoddol.
Mae’r rhaglen yn cael ei gwneud drwy’r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Am wybodaeth bellach cliciwch yma i lawr-lwytho taflen wybodaeth.