E-ddysgu
Mae e-ddysgu’n gwneud dysgu’n hwylus, hygyrch, gost-effeithiol, a gallwch astudio ar adeg sy’n eich siwtio chi a’ch Rheolwr. Mae rhai rhaglenni e-ddysgu wedi’u dynodi fel rhai sy’n orfodol i’r holl staff eu cwblhau, ac mae rhai ar gael i grwpiau staff penodol.
Rydym yn defnyddio’r platfform Pwll Dysgu i ddarparu ein cyfleoedd e-ddysgu. Mae hon yn gwbl ar wahân i Ceri. Gweler isod am ganllawiau ar sut i gael mynediad i’r Pwll Dysgu.
Rhaglenni e-ddysgu gorfodol
- Traes Yn Erbyn Menywod, Camdrin Domestig a Thrais Rhywiol
- Chwythu’r Chwiban
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Iechyd a Diogelwch
- Diogelu Gwybodaeth
- Diogelu Plant ac Oedolion Mewn Perygl – Lefel 1
- Hyfforddiant Gyrwyr Fflyd – Gorfodol ar gyfer Gyrwyr Fflyd a Gweithredwyr Peiriannu yn Unig
Rhaglenni e-ddysgu dewisol
- Hylendid Bwyd
- Adnabod Anawsterau Iechyd Meddwl Mewn Plant a Phobl Ifanc
- Cyfarpar Sgrin Arddangos
- Cyflwyniad i ofal a Gofal Personol
- Codi a chario pobl
- Codi a chariot wrthrychau
- Atal a Rheoli Heintiau
- Gweinyddu Moddion yn Ddiogel
- Hyfforddiant Canolfan Gorffwys Brys
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
- Rhagfarn Ddiarwybod i Athrawon
- Rheoli Risg
- Cysylltu â Charedigrwydd
- Ymwybyddiaeth Deddf Galluedd Meddyliol
- Deall Awtistiaeth
Sut i gael mynediad i Bwll Dysgu Ceredigion
Mae tair ffordd o gael mynediad i Bwll Dysgu Ceredigion:
- Cliciwch ar y deilsen yn hafan CeriNet
- Cliciwch ar y botwm ar y gornel dde uchaf yn CeriNet
- Chwiliwch am Dysgu.ceredigion.gov.uk yn eich porwr ar gyfer y we
Os oes gennych gyfeiriad e-bost sy’n gorffen gyda @ceredigion.gov.uk:
Dewiswch y blwch ‘Staff Ceredigion (ac eithrio Ysgolion)’. Bydd Pwll Dysgu Ceredigion yn gadael i chi blymio i mewn!
Os NAD OES cyfeiriad e-bost gennych sy’n gorffen gyda @ceredigion.gov.uk (e.e. gweithio mewn ysgol):
Dewiswch y blwch ‘Pob Defnyddiwr Arall’
Os gewch chi anhawster, e-bostiwch