Rhaglen Rheolwyr Ceredigion
Mae Rhaglen Rheolwyr Ceredigion yn cynnwys nifer o weithgareddau hyfforddi a datblygu sydd â’r nod o sicrhau bod gan reolwyr y grym a’r wybodaeth angenrheidiol a’u bod yn medru gweithredu polisïau a gweithdrefnau’n gyson.
Bydd cynllun pob rheolwr yn cynnwys y modiwlau hyfforddiant gorfodol canlynol:
- Adnoddau Dynol i Reolwyr Gwasanaethau Eraill
- Rhoi’r grym i staff berfformio
- Rheoli absenoldeb staff
- Recriwtio a chadw staff
- Iechyd a diogelwch
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Gallwch archebu’r cyrsiau yn awr: CLICIWCH YMA I ARCHEBU NAWR.
Er mwyn cefnogi’n gweithwyr ac ategu blaenoriaethau’r sefydliad, cytunwyd bod yn rhaid i bob rheolwr gwblhau Rhaglen Rheolwyr Ceredigion o fewn 12 mis.
CYFLEOEDD YCHWANEGOL
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant ychwanegol, an-orfodol a allai fod yn berthnasol i’ch rôl, gan gynnwys:
- Cyllid ar gyfer rheolwyr nad ydynt yn arbenigwyr cyllid
- Ymwybyddiaeth Sefydliadol
- Caffaeliad
- Rheoli Newid
- Rheoli Sgyrsiau Anodd
- Rheoli Cwynion
- Ymwybyddiaeth Iaith a Safonau’r Gymraeg
- Polisïau a Gweithdrefnau Disgyblu a Gwahardd