Panel Cymwysterau Corfforaethol
Yr ydym yn awyddus i gefnogi datblygiad proffesiynol ein gweithlu ac yn ymwybodol bod llawer o weithwyr yn gofyn am gymorth i ymgymryd ag ennill cymhwyster.
Er mwyn sicrhau ffordd deg a chyson o ystyried ceisiadau am gyllid neu gefnogaeth gan weithwyr yr ydym wedi datblygu Panel Cymwysterau Corfforaethol.
Bydd y Panel, sydd yn cynnwys Cyfarwyddwyr Strategol, yn cyfarfod o dro i dro yn ystod y flwyddyn a bydd yn ystyried ceisiadau am gyllid neu gefnogaeth gan weithwyr.
Er mwyn gwneud cais i’r Panel bydd angen i chi ddilyn y canllawiau a chwblhau ffurflen gais gan ddefnyddio’r ddolen isod. E-bostiwch eich ffurflen wedi’i chwblhau at dysgu@ceredigion.gov.uk ddeng niwrnod cyn i dyddiad cyfarfod y Panel.
Mae cyfarfodydd y Panel wedi’u trefnu ar gyfer:
- 5 Mawrth, 2020
- 4 Mehefin, 2020
- 8 Hydref 2020