Cyfle am nawdd

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol gyda’r Brifysgol Agored

  • A ydych chi’n cael eich cyflogi gan Gyngor Sir Ceredigion?
  • A ydych chi’n gweithio mewn Tîm Gofal Cymdeithasol / yn y maes Gofal Cymdeithasol? (am dâl neu’n wirfoddol)
  • A oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn y maes gofal cymdeithasol yn y dyfodol?

Os ateboch chi ‘ydw’ ac ‘oes’ i’r cwestiynau uchod, efallai y bydd gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am nawdd i wneud Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol gyda’r Brifysgol Agored. Mae’r dystysgrif yn cynnwys y ddau fodiwl canlynol:

  • KZW 101 – Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • KZW 113 – Y sylfeini ar gyfer ymarfer Gwaith Cymdeithasol

Mae’r ddau fodiwl hyn yn darparu sylfaen dda ar gyfer datblygu gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol a’r rhain yw’r ddau fodiwl cyntaf sydd wedi’u cynnwys yn y Radd mewn Gwaith Cymdeithasol.

Er mwyn cyflawni’r modiwlau hyn, bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

  • Mynd i dair ysgol ddydd gorfodol ar ddydd Sadwrn
  • Cyflawni pum tiwtorial ar-lein sy’n para 2 awr yr un, fel arfer gyda’r hwyr neu ar benwythnosau.
  • Cyflawni saith tiwtorial dewisol sy’n para 2 awr yr un i gynorthwyo â’r gwaith o baratoi aseiniadau.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i ariannu eich ffioedd academaidd ar gyfer y modiwlau hyn (£2600) ond bydd angen ichi fod yn barod i astudio yn eich amser eich hunan a dechrau’r cwrs ym mis Hydref 2019.

Mae hyd at 2 o lefydd yn rhan o’r cyfle hwn. Os ydych yn dymuno ymgeisio, trafodwch hyn â’ch Rheolwr Llinell a llanwch y ffurflen gais / cytundeb dysgu sy’n atodedig gan eu dychwelyd i dysgu@ceredigion.gov.uk erbyn Dydd Mercher, 26 Mehefin 2019.

Bydd y Cyfarwyddwyr Corfforaethol yn ystyried y ceisiadau yn ystod mis Gorffennaf a chewch wybod ar ôl hynny a ydych wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.