Pensions
Mae’n siŵr mai ymddeol yw’r peth olaf ar feddwl rhywun sy’n newydd ddechrau gweithio i’r Cyngor, ond mae’n werth meddwl amdano fel nod yn y tymor hir. Mae’n bwysig iawn cynllunio ymlaen llaw er mwyn sicrhau incwm i chi eich hun ar ôl i chi ymddeol.
Fel un o staff y Cyngor byddwch yn dod yn aelod awtomatig o Gronfa Bensiwn Dyfed os na fyddwch chi’n dewis peidio ag ymuno, neu aelod o Bensiwn Athrawon.