Faint yw’r gost?

Ar hyn o bryd rydych yn talu rhwng 5.5% a 12.5% o’r tâl a gewch ar gyfer eich oriau dan gontract. Mae’r gyfradd a dalwch yn dibynnu ar ba fand tâl rydych wedi’i gynnwys ynddo.
Os ydych yn gweithio’n rhan-amser bydd eich cyfradd yn seiliedig ar y gyfradd tâl amser cyfan ar gyfer eich swydd, ond byddwch yn talu cyfraniadau ar y tâl rydych yn ei ennill yn unig. (Er mwyn amcangyfrif o’ch cyfraniadau cliciwch yma).
Dyma’r bandiau tâl (Tal Amser Cyfan) a’r cyfraddau sy’n gymwys o 1af Ebrill 2022 hyd at 31ain Mawrth 2023. Bydd yr ystodau band yn cynyddu bob Ebrill yn unol â chostau byw.

  • Hyd at £15,000 = 5.5%
  • £15,001 i £23,600: = 5.8%
  • £23,601 i £38,300: = 6.5%
  • £38,301 i £48,500: = 6.8%
  • £48,501 i £67,900: = 8.5%
  • £67,901 i £96,200: = 9.9%
  • £96,201 i £113,400: = 10.5%
  • £113,401 i £170,100: = 11.4%
  • Mwy na £170,101= 12.5%

Am mwy o wybodaeth, gwelir tudalen Cronfa Bensiwn Dyfed.