Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Mae Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gynllun pensiwn statudol a ariennir, ac mae Cronfa Bensiwn Dyfed yn cynnig amrywiol fuddion sy’n ymwneud ag ymddeoliad, y teulu a marwolaeth sy’n gysylltiedig â’ch cyflog chi ac maent wedi’u gwarantu gan eich cyflogwr.
Fel un o staff y Cyngor byddwch yn dod yn aelod awtomatig o Gronfa Bensiwn Dyfed os na fyddwch chi’n dewis peidio ag ymuno.
O’r diwrnod cyntaf, mae yswiriant bywyd gennych sy’n gyfwerth â thâl tair blynedd (yn ddi-dreth). Efallai bydd buddion plant yn daladwy hefyd. Yn ogystal cewch gynyddu eich buddion ymddeol trwy wneud cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol ac os byddwch yn ymadael yn wirfoddol, gellir trosglwyddo’r buddion i gynllun arall neu’u cadw nes byddwch yn cyrraedd oedran ymddeol.
Os bydd yn rhaid i chi roi’r gorau i’r gwaith ar unrhyw adeg yn eich bywyd oherwydd afiechyd parhaol (y bydd angen ei ardystio gan feddyg iechyd galwedigaethol annibynnol a benodir gan eich cyflogwr), bydd y Cynllun yn darparu pecyn graddedig ar gyfer ymddeoliad yn sgil afiechyd. Gallai hynny olygu talu buddion i chi ar unwaith a gellid eu cynyddu os nad ydych yn debygol o fedru ennill cyflog o fewn 3 blynedd ar ôl i chi ymadael.
Os bydd eich cyflogwr am i chi ymddeol yn 55 oed neu’n hŷn byddwch yn gymwys i gael eich buddion wedi’u rhyddhau. Pan fyddwch yn ymddeol cewch incwm rheolaidd am oes a fydd yn codi gyda chwyddiant.
Am canllaw, ffurflenni a ffeithlenni cyffredinol, cliciwch yma.