Faint yw’r gost?

Ar hyn o bryd byddwch yn talu rhwng 7.4% a 11.7% o’r cyflog a gewch chi am yr oriau sydd yn eich contract. Mae’r gyfradd yn dibynnu ar ba fand swyddi’r ydych chi ynddo.

I wneud amcangyfrif o’ch cyfraniadau, cliciwch yma.

Y rhain yw’r bandiau cyflogau (tâl llawn-amser) a’r cyfraddau am y cyfnod o 1 Ebrill 2022 tan 31 Mawrth 2023. Mae’r bandiau fel arfer yn newid bob mis Ebrill, a bydd Pensiynau Athrawon yn cyhoeddi unrhyw newidiadau mewn da bryd.

Cyflog Blynyddol i weithwyr Cymwys o Ebrill 2022 Cyfraniad
 Hyd at £29,187.99  7.4%
 £29,188 i £39,290.99  8.6%
 £39,291 i £46,586.99  9.6%
£46,587 i £61,742.99  10.2%
 £61,743 i £84,193.99  11.3%
 £84,194 a mwy  11.7%