Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVC’s) Ar gyfer Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Ymdrinnir ag unrhyw gais newydd am aelodaeth Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVC) fel cais o dan AVC Wise.  Bydd yn ofynnol i chi gytuno ar drefniant aberthu cyflog bydd nid yn unig yn arbed treth incwm i chi ond y bydd hefyd yn lleihau ar faint o yswiriant gwladol byddwch chi’n ei dalu.  Ar yr amod y bydd eich tâl gros, ar ôl caniatáu am y aberthu cyflog, yn fwy na £490 y mis (yn gywir ar 2017/18) ni fydd unrhyw ostyngiad yn lefel y tâl salwch, tâl mamolaeth neu dâl mabwysiadu.  Ni fydd yr aberthu cyflog yn effeithio ar eich manteision pensiwn.

Mae’r ddolen gyswllt ganlynol ar Gronfa Bensiwn Dyfed yn darparu manylion cyswllt ar gyfer Prudential a Standard Life gan hefyd ddarparu gwybodaeth ar yr AVC http://www.cronfabensiwndyfed.org.uk/cynllun-pensiwn-llywodraeth-leol/aelodau/cynyddu-eich-buddion/

Os byddwch chi’n penderfynu dechrau ar gyfraniadau AVC Wise bydd yn rhaid i chi drefnu hyn yn uniongyrchol â Prudential a Standard Life.  Bydd y darparwyr AVC wedyn yn cysylltu â thîm cyflogres y Cyngor i drefnu didyniad o’ch cyflog.  Bydd tîm y gyflogres wedyn yn trefnu talu’r didyniadau yma i’r darparwyr AVC fydd yn dyrannu’r arian i’ch AVC unigol.  Ni fydd un punt o’ch didyniad cyflog yn derbyn mantais arbediad Yswiriant Gwladol fodd bynnag bydd y gweddill yn derbyn y mantais hwnnw.  Gofynnir i chi hefyd gwblhau ‘Ffurflen Ganiatâd ar Aberthu Cyflog’  a’i hanfon drwy e-bost at Dîm Gyflogres y Cyngor – os na fyddwch chi’n gwneud hyn ni fydd y didyniadau AVC yn dechrau.