Teachers Pension
Mae’r Pensiwn Athrawon yn ffordd o gynilo ar gyfer eich dyfodol a sicrhau y bydd gennych arian wrth gefn pan fyddwch chi’n hŷn. Gweinyddir y pensiwn ar ran y Llywodraeth ac mae’n ffordd ichi sicrhau y bydd gennych incwm ar ôl ichi ymddeol. Mae’r Cynllun Pensiynau Athrawon yn Gynllun â Buddion wedi’u Diffinio sy’n seiliedig ar eich enillion pensiynadwy blynyddol, ac fe gaiff ei ail-gyfrifo bob blwyddyn. Byddwch chi a’r Cyngor yn talu cyfraniadau at gost eich pensiwn tra byddwch yn gweithio yma yng Ngheredigion. Mae’r pensiwn yno ichi a’ch teulu, ac nid yw’r Cyngor na’r Llywodraeth yn berchen arno.
Unwaith y byddwch chi wedi dechrau addysgu, bydd yn un o delerau’ch contract eich bod yn ymuno â’r cynllun o’r cychwyn cyntaf. Os cawsoch chi rif Pensiynau Athrawon dros dro ar ddiwedd eich hyfforddiant, hwn fydd eich rhif parhaol o hyn ymlaen.
Gallwch hefyd fynd ar-lein i weld eich datganiad buddion unrhyw bryd, ar ôl ichi gofrestru ar gyfer Fy Mhensiwn Ar-lein. Mae modd gweld pa fuddion pensiwn sydd wedi’u cronni gennych, a chyfrifo faint o bensiwn a gewch chi pe byddech chi’n dewis ymddeol ar ryw ddyddiad penodol.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni cyswllt isod.