Cofrestru Awtomatig
Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr gofrestru rhai gweithwyr yn awtomatig mewn cynllun pensiwn cymwys yn y gwaith os nad ydynt eisoes wedi ymuno â chynllun o’r fath.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn effeithio ar y gweithwyr isod:
- nad ydynt eisoes mewn cynllun pensiwn cymwys yn y gweithle;
- sy’n 22 oed o leiaf ac yn is nag oedran pensiwn y wladwriaeth;
- sy’n ennill mwy na’r trothwy enillion lleiaf (£10,000 in 2014-15);
- sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig.
Caiff pob gweithiwr cymwys sydd newydd ei benodi, y gweithwyr presennol hynny sydd newydd ddod yn gymwys a gweithwyr achlysurol newydd a phresennol eu cofrestru’n awtomatig yng nghynllun pensiwn y Cyngor o’r dyddiad hwnnw ymlaen.
Fodd bynnag, o 1 Hydref 2017 ymlaen , bydd POB gweithiwr cymwys gan gynnwys y gweithwyr presennol sydd wedi dewis peidio ag ymuno, yn cael eu cofrestru’n awtomatig fel y nodir yn y Rheoliadau. Caiff unrhyw aelod staff, ar ôl cofrestru, ddewis peidio â bod yn aelod o’r cynllun ar unrhyw adeg.
Talu Cyfraniadau i’r cynllun
Bydd y Cyngor yn tynnu’r cyfraniadau pensiwn o’ch cyflog cyn didynnu treth, sy’n golygu nad ydych chi’n talu unrhyw dreth ar yr arian rydych chi’n ei gyfrannu at eich pensiwn. Fe fydd y Cyngor hefyd yn cyfrannu at eich pensiwn. Byddwch chi a’r Cyngor yn talu cyfraniadau i’r Cynllun bob mis.