Cofrestru awtomatig

autorenrolmentMae’r Llywodraeth wedi cyflwyno deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr gofrestru rhai gweithwyr yn awtomatig mewn cynllun pensiwn cymwys yn y gwaith os nad ydynt eisoes wedi ymuno â chynllun o’r fath.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn effeithio ar y gweithwyr isod:

  • nad ydynt eisoes mewn cynllun pensiwn cymwys yn y gweithle;
  • sy’n 22 oed o leiaf ac yn is nag oedran pensiwn y wladwriaeth;
  • sy’n ennill mwy na’r trothwy enillion lleiaf (£10,000 in 2014-15);
  • sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig.

Er i gofrestru awtomatig ddod i rym ar 1 Hydref 2012, nid oes raid i’r Cyngor gofrestru gweithwyr cymwys yn awtomatig tan y ‘dyddiad gweithredu’ sef 1 Mai 2013. Caiff pob gweithiwr cymwys sydd newydd ei benodi, y gweithwyr presennol hynny sydd newydd ddod yn gymwys a gweithwyr achlysurol newydd a phresennol eu cofrestru’n awtomatig yng nghynllun pensiwn y Cyngor o’r dyddiad hwnnw ymlaen.

O dan y trefniadau trosiannol sydd yn y Rheoliadau, mae’r Cyngor wedi gweithredu oedi trosiannol o gofrestru awtomatig i bob gweithiwr cymwys sydd wedi dewis peidio ag ymuno hyd nes 30 Medi 2017.

Fodd bynnag, o 1 Hydref 2017 ymlaen , bydd POB gweithiwr cymwys gan gynnwys y gweithwyr presennol sydd wedi dewis peidio ag ymuno, yn cael eu cofrestru’n awtomatig fel y nodir yn y Rheoliadau. Caiff unrhyw aelod staff, ar ôl cofrestru, ddewis peidio â bod yn aelod o’r cynllun ar unrhyw adeg.

Mae cofrestru awtomatig yn ymwneud â’r swydd ac nid â’r unigolyn ac felly bydd y rhai sy’n gweithio mewn mwy nag un swydd gyda’r Cyngor yn cael eu cofrestru ar gyfer pob swydd.
Bydd y Cyngor yn rhoi cyfle i’r gweithwyr hynny sydd heb fodloni’r meini prawf uchod ymuno â chynllun pensiwn y Cyngor.

Bob tair blynedd bydd yn rhaid i’r Cyngor ailgofrestru pob aelod cymwys o’r staff nad yw, y pryd hynny, yn aelod o gynllun pensiwn y Cyngor, a hynny hyd yn oed os oedd wedi dewis peidio â bod yn aelod o’r cynllun o’r blaen.