Arfarniadau Blynyddol
Nod Perfformiad Staff – Gwerthusiad Blynyddol yw rhoi cyfle i chi adolygu eich cynnydd dros y flwyddyn flaenorol, cytuno ar amcanion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a nodi gofynion Dysgu a Datblygu (D&D) gyda’ch rheolwr.
Bydd yr arfarniad blynyddol bellach yn cael ei gofnodi ar-lein gan ddefnyddio system Ceri. Gallwch chi gwblhau eich tudalennau trwy hunan-wasanaeth. Fel hyn, bydd gwybodaeth yn ymwneud â chyflogaeth, hyfforddiant, sgiliau ac ati yn cael ei phoblogi a’i arbed yn awtomatig.
Cwblhau’r Gwerthusiad
Mae’r gweithiwr yn gyfrifol am baratoi ar gyfer y cyfarfod arfarnu drwy sicrhau ei fod yn gyfarwydd â’r amcanion a nodwyd yn y cyfnod arfarnu blaenorol, ac wedi ystyried yr amcanion posibl yn drylwyr ac unrhyw ddatblygiad a hyfforddiant angenrheidiol a all fod yn berthnasol am y cyfnod i ddod.
Bydd rheolwr llinell y gweithiwr yn cwblhau’r ffurflen arfarnu yn ystod y cyfarfod arfarnu. Wrth baratoi ar gyfer y cyfarfod dylai gweithwyr ymgyfarwyddo â’u proffil Dysgu a Datblygu llawn ar eu cyfrif hunanwasanaeth Ceri, sy’n cynnwys manylion yr amcanion o’r cyfnod arfarnu blaenorol. Mae hwn hefyd yn gyfle pwysig i weithwyr wirio pob agwedd o’r wybodaeth a geir ar eu cyfrif hunanwasanaeth i sicrhau ei bod yn gywir ac yn gyfredol.
Nodyn: Os ydych chi’n newydd i’r Cyngor neu os ydych chi’n cwblhau’r adolygiad gwerthuso trwy Ceri am y tro cyntaf bydd y rhan sy’n ymwneud ag amcanion y flwyddyn flaenorol yn wag.
Am ganllawiau cam wrth gam ar gwblhau’r ffurflen ar Hunanwasanaeth, ceir mwy o fanylion ar: Sylfaen Gwybodaeth.
Llinell Amser
Bydd y cyfnod arfarnu yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth bob blwyddyn, a dylid ei gyflwyno erbyn 31 Mai. Byddwch yn cael eich hatgoffa i gwblhau’r broses arfarnu bob blwyddyn.
Os ydych yn dechrau o’r newydd, bydd y broses arfarnu yn cychwyn ar 1 Ebrill ar ôl cwblhau’n llwyddiannus y broses sefydlu gorfforaethol a’r cyfnod prawf.
Y Cyfarfod
Bydd eich rheolwr yn trefnu cyfarfod trwy gyfrwng priodol sy’n hygyrch a heb ymyrraeth. Cyfarfod un i un yw hwn; fodd bynnag gallwch ofyn i gael cyfieithydd neu Ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain yn bresennol i gefnogi’r broses. Trafodwch hyn gyda’ch rheolwr llinell cyn y cyfarfod, os oes angen.
Yn ystod eich cyfarfod arfarnu, bydd y rheolwr llinell yn adolygu eich cynnydd, yn trafod eich perfformiad, ac yn ystyried amcanion ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan ystyried unrhyw argymhellion a wneir gennych chi. Sylwer, fodd bynnag, bod gan y rheolwr y gair olaf mewn perthynas â’r amcanion a osodir. Bydd cyfle hefyd i chi drafod unrhyw bryderon iechyd a lles a all fod gennych ac a allai effeithio ar eich gallu i gyflawni eich amcanion. Sylwer, os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â’ch iechyd a’ch lles, dylech siarad â’ch rheolwr llinell ar unwaith, ac nid aros tan y cyfarfod gwerthusiad blynyddol. Ni chaiff gwybodaeth gyfrinachol ynglŷn â’ch iechyd a’ch lles ei chofnodi ar ffurflen werthuso Ceri.
Pan fydd eich rheolwr wedi cwblhau’r ffurflen arfarnu yn ystod eich cyfarfod, byddwch yn gallu adolygu’r ffurflen wedi’i chwblhau drwy hunan wasanaeth Ceri.
Cynnydd yr amcanion
Nid oes adolygiad ganol blwyddyn ffurfiol wedi’i drefnu yn rhan o’r weithdrefn hon; fodd bynnag, mae’n ofynnol i reolwyr llinell sicrhau eu bod yn gyfarwydd â chynnydd eu gweithwyr yn eu hamcanion er mwyn sicrhau y rhoddir sylw i unrhyw rwystrau mewn digon o bryd. Gellir trefnu cyfarfodydd ychwanegol yn rhan o’r broses ar gais y rheolwr llinell neu’r gweithiwr er mwyn trafod perfformiad, yn enwedig os oes unrhyw bryderon neu os oes angen unrhyw gefnogaeth ychwanegol.
Gall y gweithiwr hefyd gael mynediad i’w arfarniad ar unrhyw adeg e.e. amcan wedi’i gwblhau’n gynnar.
Anghenion Dysgu a Datblygiad
Gall dysgu a datblygu gynnwys profiad gwaith, cysgodi cydweithwyr, mynd i weminarau, cymryd rhan mewn rhwydweithiau proffesiynol, gwaith tîm, gweithgaredd grŵp a hunan-ddatblygiad yn ogystal â gweithgareddau hyfforddiant ffurfiol. Dylai’r rhain fod yn berthnasol i swydd bresennol y gweithiwr. Dylai’r gweithiwr a’r rheolwr llinell gydweithio i nodi’r cyfleoedd mewnol ac allanol wrth gytuno ar yr amcanion dysgu a datblygu.
Gallwch ddod o hyd i ddigwyddiadau D&D ar Hunanwasanaeth Ceri trwy ddewis Dysgu a Datblygu, a chlicio ar ” Chwilio Cyrsiau “. Gallwch fireinio eich chwiliad naill ai yn ôl teitl y cwrs, dyddiad neu argaeledd. Os nad yw cwrs ar gael, gallwch ychwanegu eich enw at y rhestr aros, a byddwch yn cael gwybod pan fydd y cwrs nesaf ar gael.
Noder bod pob Gwasanaeth unigol yn gyfrifol am ei gyllideb hyfforddiant, felly dylai rheolwyr llinell sicrhau bod ganddynt gymeradwyaeth y Swyddog Arweiniol Corfforaethol.
Dylai’r rheolwr llinell adolygu’r cyrsiau hyfforddiant sydd ar gael yn rheolaidd, gan y gellir ychwanegu anghenion hyfforddiant a nodwyd i amserlenni hyfforddiant yn y dyfodol. Bydd Adnoddau Dynol yn adolygu’r data arfarnu bob blwyddyn er mwyn nodi anghenion hyfforddiant corfforaethol generig ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dysgu a Datblygu
Beth os na wnaeth y gweithiwr fynychu’r hyfforddiant a nodwyd ar ddechrau’r flwyddyn flaenorol?
Dylid trafod hyn gyda’r gweithiwr. Efallai y bydd esboniad rhesymol am hyn ac efallai yr hoffech ystyried trosglwyddo’r hyfforddiant i’r flwyddyn sydd i ddod. Os na cheir esboniad rhesymol, dylid egluro bod yr hyfforddiant yn bwysig a phwysleisio bod ymgymryd â’r hyfforddiant yn ofynnol ac yn elfen hanfodol o’r swydd.
Mae natur y swydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr ennill cymhwyster neu sgil o fewn cyfnod amser penodedig, ond ni chyflawnwyd hyn. Beth ddylwn ei wneud?
Os yw’r gweithiwr wedi methu â bodloni gofyniad dysgu neu sgil cytundebol, trafodwch y rheswm am hyn. Efallai bod rheswm sylfaenol neu esboniad rhesymol am hyn. Os na cheir esboniad rhesymol, cysylltwch â’r tîm Adnoddau Dynol i gael rhagor o gyngor ar y camau nesaf.
Swyddi Lluosog a Rheoli Matrics
Mae gan Weithiwr sawl swydd; a fydd angen mwy nag un arfarniad?
Lle mae gan weithwyr fwy nag un contract, gyda rolau gwahanol, neu dimau ar wahân, bydd angen arfarniad ar gyfer pob swydd gyda amcanion perthnasol y cytunwyd arnynt ar gyfer pob un.
Mae gan Weithiwr fwy nag un Rheolwr, pwy sy’n cynnal yr arfarniad?
Lle mae rheoli matrics yn bodoli, bydd y rheolwr llinell enwebedig yn cynnal yr adolygiad arfarnu. Fodd bynnag, gall y rheolwr llinell drafod amcanion, a gofyn am adborth gan reolwr perthnasol arall i’w gynnwys yn y cofnod arfarnu.
Cytuno ar yr Amcanion
Beth sy’n digwydd os na all y rheolwr llinell a’r gweithiwr gytuno ar yr amcanion?
Os na ellir cytuno ar amcanion neu weithdrefnau monitro ar y cyd, y rheolwr llinell sydd a’r penderfyniad terfynol. Gall y gweithiwr ychwanegu sylwadau i’r cofnod ar ddiwedd y broses. Dylid gwneud pob ymdrech i ddatrys unrhyw anghytundeb yn anffurfiol yn ystod y cyfarfod Gall Adnoddau Dynol roi cefnogaeth bellach er mwyn dod o hyd i ffordd o symud ymlaen; fodd bynnag, mae llwybrau mwy ffurfiol ar gael i’r gweithiwr drwy’r Polisi Anghydfod os yw’r unigolyn yn parhau i deimlo ei fod wedi cael cam.
Pwy all weld fy Arfarniad, a sut y caiff ei ddefnyddio?
Gall y gweithiwr, ei reolwr llinell, a’r rheolwr llinell uniongyrchol uwchlaw hynny weld y ffurflen arfarnu.
Bydd Adnoddau Dynol yn derbyn adroddiadau a fydd yn ein cynorthwyo i adnabod:
- Anghenion hyfforddiant ar draws y gwasanaeth;
- Gwasanaethau lle mae canran yr arfarniadau a gwblhawyd yn isel;
- Gwasanaethau neu grwpiau lle gall fod consyrn bod y canran lle cwblhawyd yr amcanion yn isel
Beth os wyf am gofnodi gwybodaeth ychwanegol?
Efallai y bydd gweithwyr am gynnwys sylwadau sy’n ymwneud â chyflawniadau eithriadol na chawsant eu cynnwys yn yr amcanion cychwynnol a osodwyd am y flwyddyn. Dylid nodi hyn yn yr adran sylwadau terfynol ar ddiwedd y ddogfen arfarnu.
A allaf ddiwygio’r dyddiad cychwyn neu’r dyddiad terfyn ar gyfer amcan?
Gall y gweithiwr neu’r rheolwr llinell gofnodi bod amcan wedi’i gwblhau yn gynharach na’r dyddiad gosod gwreiddiol trwy nodi hyn yn y blwch sylwadau cynnydd yn yr amcanion.
Sut ydw i’n cofnodi cynnydd trwy gydol y flwyddyn?
Bydd y gweithiwr a’r rheolwr llinell yn gallu gweld y ddogfen ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, a gallant ychwanegu sylwadau cynnydd a fydd yn weladwy wrth adolygu amcanion ar ddiwedd y flwyddyn.
Beth os na all y gweithiwr gael mynediad i’r ffurflen Arfarnu drwy Hunanwasanaeth Ceri?
Mewn amgylchiadau eithriadol, gall y gweithiwr ofyn am gopi papur o’r ffurflen. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylai’r rheolwr llinell fynd i Hunanwasanaeth Ceri i sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei chymryd i ystyriaeth ac yn diweddaru’r wybodaeth yn unol â hynny. Mae’r system yn caniatáu i’r rheolwr argraffu’r ffurflen ar ôl ei chwblhau i’w rhoi i unrhyw weithiwr.
Ble alla i gael copi o’r swydd ddisgrifiadau ar gyfer fy ngweithwyr?
Os yw’r swydd wedi cael ei hysbysebu trwy Ceri ers mis Mehefin 2016, ac os llwythwyd y disgrifiad swydd ar ‘Atodi Achos Busnes’, byddwch yn gallu gweld y disgrifiad swydd trwy Rheolwr Pobl Ceri. Neu os anfonwyd y disgrifiad swydd at AD ar gyfer ‘Gwerthuso Swyddi’, efallai y bydd copi ar gael o’r fan honno.
Os yw gweithiwr yn cael contract dros dro neu os yw’n newydd i’r Cyngor, a ddylid ei gynnwys yn yr arfarniad blynyddol?
Bydd pob aelod o staff a apwyntir yn derbyn Rhaglen Sefydlu Corfforaethol 6 mis ar ddiwrnod cyntaf ei gyflogaeth. Ar ddiwedd y rhaglen hon, bydd y gweithiwr yn derbyn adolygiad gan ei r(h)eolwr llinell, a gosodir amcanion a fydd yn ymestyn i ddechrau eu harfarniad blynyddol cyntaf ar 1 Ebrill. Os nad yw’r contract dros dro yn ymestyn i’r dyddiad hwn, dylid adlewyrchu hyn yn y cyfnod a nodir yn erbyn yr amcanion. Fodd bynnag, os rhagwelir y bydd y contract yn cael ei ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad hwn, dylid ystyried hyn a’i brosesu yn unol â hynny.
Os yw gweithiwr ar absenoldeb mamolaeth neu ar absenoldeb estynedig arall, a ddylai gael ei gynnwys yn yr arfarniad blynyddol?
Os yw’r unigolyn yn absennol yn ystod y cyfnod arfarnu i gyd ni ddylai fod yn ofynnol iddo gymryd rhan yn y broses. Cysylltwch ag Adnoddau Dynol a all wneud yr addasiadau angenrheidiol i gofnod yr unigolyn er mwyn sicrhau nad yw hyn yn ymddangos yn ofyniad heb ei gyflawni. Os yw’r unigolyn yn bresennol am gyfran o’r cyfnod arfarnu, dylid addasu’r amcanion a’r llinell amser i adlewyrchu hynny.
Os yw gweithiwr ar secondiad o’i swydd barhaol a ddylai gael ei gynnwys yn yr arfarniad blynyddol?
Bydd yn ofynnol o hyd i’r unigolyn gyfranogi yn y broses arfarnu ond cyfrifoldeb y rheolwr llinell newydd fydd cwblhau’r broses arfarnu gyda’r unigolyn hwnnw.
Cysylltwch ag Adnoddau Dynol i wneud yr addasiadau angenrheidiol i gofnod yr unigolyn er mwyn sicrhau bod y gofynion arfarnu yn cael eu cofnodi yn erbyn y swydd gywir.
Os yw’r unigolyn yn bresennol yn ei swydd barhaol a’i swydd ar secondiad am gyfran o’r cyfnod arfarnu, dylai’r rheolwyr llinell perthnasol addasu’r amcanion a’r llinell amser i adlewyrchu hyn.