Cynnydd yr amcanion

Nid oes unrhyw adolygiad canol blwyddyn ffurfiol. Fodd bynnag, gallwch gael copi o’r gwerthusiad ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn trwy hunan-wasanaeth gan ddiweddaru cynnydd eich amcanion trwy gydol y flwyddyn. Er enghraifft, os ydych chi’n cwblhau amcan yn gynnar, gallwch nodi o hyn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch yr amcanion, neu os oes angen unrhyw gefnogaeth ychwanegol arnoch, dylech drafod hyn gyda’ch rheolwr llinell.

Eitemau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y gwerthusiad

Efallai yr hoffech gynnwys sylwadau yn ymwneud รข chyflawniadau eithriadol nad oeddent wedi’u cynnwys yn yr amcanion cychwynnol a osodwyd ar gyfer y flwyddyn. Dylid nodi hyn yn yr adran sylwadau terfynol ar ddiwedd y ddogfen werthuso.