Y Cyfarfod

Bydd eich rheolwr yn trefnu cyfarfod, gan ganiatáu amser digonol, mewn lleoliad sy’n hygyrch a heb ymyrraeth. Cyfarfod un i un yw hon; fodd bynnag, gallwch ofyn am gyfieithydd neu gyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain. Trafodwch hyn gyda’ch rheolwr llinell cyn y cyfarfod, os oes angen.

Yn ystod eich cyfarfod gwerthuso, bydd y rheolwr llinell yn adolygu eich sylwadau, a’r wybodaeth a gyflwynir yn adran 1, yn trafod eich perfformiad, ac yn ystyried amcanion ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan ystyried unrhyw argymhellion a wneir gennych chi. Sylwer, fodd bynnag, bod gan y rheolwr y gair olaf mewn perthynas â’r amcanion a osodir.

Bydd cyfle hefyd i chi drafod unrhyw bryderon iechyd a lles a allai fod gennych, a allai effeithio ar eich gallu i gyflawni’ch amcanion. Sylwer, os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â’ch iechyd a’ch lles, dylech siarad â’ch rheolwr llinell ar unwaith, ac nid aros tan y cyfarfod gwerthusiad blynyddol. Ni chaiff gwybodaeth gyfrinachol ynglŷn â’ch iechyd a’ch lles ei gofnodi ar ffurflen werthuso Ceri.

Unwaith y bydd eich rheolwr wedi cwblhau eu rhan yn ystod neu ar ôl eich cyfarfod, byddwch yn gallu adolygu’r ffurflen wedi’i chwblhau yn rhan 3, a rhoi sylwadau terfynol ynglŷn â’r gwerthusiad, cyn cyflwyno’r ffurflen.