Cwblhau’r Gwerthusiad

Mae’r gweithiwr yn gyfrifol am gwblhau Rhan 1 o’r ffurflen arfarnu. Gofynnir i’r gweithiwr gwblhau hwn ar hunan-wasanaeth cyn i chi gwrdd â’ch rheolwr llinell.

Yn gyntaf, mae rhan 1 yn rhoi’r cyfle i chi wirio bod eich manylion cyflogaeth yn gywir. Os oes unrhyw wybodaeth yn anghywir, dylech nodi hyn yn ystod y cyfarfod gwerthuso gyda’ch rheolwr llinell.

  • Byddwch chi’n gallu gweld amcanion y flwyddyn flaenorol ac ychwanegu sylwadau.
  • Yna, gallwch adolygu’ch cofnod D & D. Caiff digwyddiadau sy’n cael eu harchebu trwy hunan-wasanaeth eu poblogi’n awtomatig, ond os ydych chi wedi cwblhau unrhyw weithgaredd hyfforddi neu ddigwyddiad y tu allan i Geredigion, dylid cofnodi hyn ar eich proffil D & D. Cyfrifoldeb y gweithwyr yw cadw’r wybodaeth hon yn gyfoes.
  • Y darn olaf o ran 1 yw’r cynllun staff. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi awgrymu amcanion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Rhaid i’r amcanion hyn ymwneud â’ch sefyllfa gyfredol, a gallwch hefyd awgrymu anghenion dysgu neu ddatblygiad. Mae yna gyfle hefyd i chi nodi unrhyw bryderon Iechyd a Lles yr hoffech eu trafod yn ystod y cyfarfod.
  • Trwy safio’r ddogfen hon gellir cael mynediad i ddiwygio yn nes ymlaen. Fodd bynnag, rhaid i chi gyflwyno’ch ffurflen er mwyn ei anfon at eich rheolwr llinell.

Nodyn: Os ydych chi’n newydd i’r Cyngor, neu os ydych chi’n cwblhau’r adolygiad gwerthuso trwy Ceri am y tro cyntaf bydd y rhan sy’n ymwneud ag amcanion y flwyddyn flaenorol yn wag.

Am cyfeiryddion cam wrth gam, ewch i’r Sylfaen Gwybodaeth am fwy o manylion.