Anghenion Dysgu a Datblygiad
Gall anghenion dysgu a datblygu gynnwys profiad gwaith, cysgodi cydweithwyr, gwaith tîm a gweithgaredd grŵp a hunan-ddatblygiad yn ogystal â gweithgareddau hyfforddiant ffurfiol. Dylai’r anghenion hyn fod yn berthnasol i’ch rôl bresennol. Gallwch awgrymu syniadau ar gyfer hyfforddiant a datblygiad i’ch rheolwr, ond y rheolwr fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Gallwch ddod o hyd i ddigwyddiadau D & D ar Ceri Hunan Wasanaeth, trwy ddewis Dysgu a Datblygu, a chlicio ar ” Chwilio Cyrsiau “. Gallwch chi fireinio’ch chwiliad naill ai drwy deitl y cwrs, dyddiad neu argaeledd. Os nad yw cwrs ar gael, gallwch roi eich enw ar restr aros, a byddwch yn cael gwybod pan fydd y cwrs nesaf ar gael. Gallwch chi, eich rheolwr llinell, a’u rheolwr llinell hwythau weld eich gwerthusiad chi.