Gwybodaeth Ychwanegol

Beth sy’n digwydd os na all fy rheolwr a minnau gytuno ar amcanion?

Mae gan eich rheolwr llinell y gair olaf ar ba amcanion i’w gosod. Fodd bynnag, os ydych chi’n anghytuno’n gryf â’r rhai a osodwyd, neu os ydych chi’n teimlo nad ydynt yn gyraeddadwy, dylid gwneud pob ymdrech i geisio datrys y gwahaniaethau hyn yn anffurfiol. Gallwch hefyd nodi unrhyw bryderon yn yr adran sylwadau yn adran 3.

Nid oes proses apelio, felly mae angen ichi gyfeirio at y Polisi Cwyno os na ellir datrys y gwahaniaeth.

Mynediad

Os na allwch chi fynd at system Ceri, trafodwch hyn gyda’ch rheolwr llinell, a all eich cynorthwyo i gwblhau’ch adran ar Ceri.

Beth os ydw i am gofnodi gwybodaeth ychwanegol?

Efallai y bydd gweithwyr yn dymuno cynnwys sylwadau yn ymwneud â chyflawniadau eithriadol nad oeddent wedi’u cynnwys o fewn yr amcanion cychwynnol a osodwyd ar gyfer y flwyddyn. Dylid nodi hyn yn yr adran sylwadau terfynol ar ddiwedd y ddogfen arfarnu.