Hyrwyddwyr Iechyd a Lles

Bydd Hyrwyddwyr Iechyd a Lles yn cael meysydd gwasanaeth penodol a byddant yn gweithio gyda’u cydweithwyr er mwyn deall beth fydd yn gweithio yn yr amgylchedd hwnnw ac yn dewis adnoddau a fydd yn addas i’w meysydd gwasanaeth.

 

Sarah Tagg

sarah.tagg@ceredigion.gov.uk

Hoffwn gefnogi fy nghydweithwyr a’r tîm ehangach er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles. Mae boddhad mawr i’w gael o gefnogi pobl ar eu llwybr llesiant. Mae ansawdd bywyd yn bwysig a fy nod yw helpu pobl i fyw eu bywyd gorau.

 

Natalie Chambers

Natalie.Chambers@ceredigion.gov.uk

Rwy’n byw gyda gorbryder ac iselder ac rwy’n deall yr effaith y mae’n gallu ei chael ar bob agwedd o’n bywydau. Mae ymarfer corff a bwyd yn rhywbeth sy’n bwysig i mi fel rhan o’m lles holistaidd. Rwy’n credu’n gryf os nad ydym yn cymryd amser i edrych ar ôl ein lles, mae’n bosib y bydd yn rhaid i ni edrych ar ôl ein salwch. Rwy’n angerddol tu hwnt ynghylch iechyd a lles.

 

Daniel Davies

Daniel.Davies@ceredigion.gov.uk

Hoffwn weithio i ddod o hyd i atebion i bobl eraill a allai fod yn ei chael hi’n anodd gyda’u hiechyd a’u lles. Efallai na fydd hyn bob amser yn bosib ond hoffwn o leiaf eu rhoi ar y llwybr cywir i ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth.

 

Susan Kidd

Susan.Kidd@ceredigion.gov.uk

Ar ôl gweld dirywiad yn iechyd meddwl fy nghydweithwyr a’m hiechyd meddwl fy hun mewn blynyddoedd diweddar, rwy’n credu ei bod yn bwysig a buddiol ein bod yn cefnogi ein gilydd.  Roeddwn am ddod yn Eiriolwr Iechyd a Lles fel y gallwn fod yn rhan o’r drafodaeth ar sut i wneud newidiadau cadarnhaol o fewn y sefydliad a fyddai o fudd i fy ffrindiau a’m cydweithwyr.

 

Sarah Smyth

Sarah.Smyth@ceredigion.gov.uk

Gan fod arferion gweithio wedi newid a’n bod ni’n gweithio mewn ffordd fwy hybrid, mae’n bwysig gwneud yn siwr bod pawb yn cael eu cefnogi gyda’u hiechyd a’u lles. Fel Eiriolwr Iechyd a Lles roeddwn yn teimlo y byddwn mewn lle gwell i gyfeirio aelodau fy nhîm a’r sefydliad yn ehangach at unrhyw gyngor ac arweiniad a allai fod eu hangen arnyn nhw.

 

Sarah Owens

Sarah.Owens@ceredigion.gov.uk

Rwy’n teimlo’n angerddol dros gael sgyrsiau sy’n cymell fy nghydweithwyr i wneud dewisiadau iachach a hefyd i hyrwyddo lles meddyliol cadarnhaol yn ein plith.

 

Rebecca Williams

Rebecca.Williams@ceredigion.gov.uk

Mae iechyd a lles yn bersonol i bob un. Dewisais ddod yn Eiriolwr Iechyd a Lles i gefnogi fy nghydweithwyr i gyflawni eu nodau a chanfod yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Mae cefnogi iechyd a lles eraill yn bwysig i mi.

 

Cefnogwyr Iechyd a Lles

Os oes diddordeb gennych mewn iechyd a lles ac hoffech chi wybod mwy am y gwaith a wneir gennym, beth am ymuno â ni fel Cefnogwr Iechyd a Lles?

Bydd y Cefnogwyr Iechyd a Lles yn cefnogi gwaith yr Hyrwyddwyr Iechyd a Lles drwy rannu gwybodaeth a diweddariadau gyda’u timau.

E-bostiwch healthandwellbeing@ceredigion.gov.uk i gael gwybod mwy neu cliciwch yma i fynegi diddordeb a byddwn mewn cysylltiad.