Sesiynau Galw Heibio Lles Gweithwyr

Ar hyn o bryd rydym yn byw ac yn gweithio ar adegau o her, ansicrwydd ac ynysu.

Mae lles yn effeithio ar bawb a gall unigolion amrywio rhwng ymdopi yn ffyniannus a’i chael hi’n anodd.

Rydym yn gwerthfawrogi pan fyddwch chi’n cael trafferth gyda phroblem o ran eich lles neu’ch iechyd meddwl, nid yw gwybod ble a sut i ddod o hyd i help bob amser yn syml.

Rydym felly yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cyflwyno gwasanaeth cymorth rhithwir ‘galw heibio lles gweithwyr’ newydd.

Nod y gwasanaeth yw darparu cefnogaeth i staff a hoffai drafod pryderon ynglŷn â lles. Nid bwriad y sesiynau yw darparu cefnogaeth neu gwnsela parhaus ond gweithredu fel pwynt cyswllt a sicrwydd ac i gyfeirio staff at ffynonellau cymorth eraill, nad oeddent efallai wedi’u hystyried o’r blaen.

Gallwn ddarparu adnoddau a chyngor mewn perthynas ag ystod o bynciau fel straen, gwaith, perthnasoedd, pryderon teuluol, cydbwysedd gwaith/bywyd, materion iechyd meddwl neu unrhyw bryderon a allai fod gennych ynghylch eich lles corfforol neu gymdeithasol.

Gall ceisio cyngor a chael eich clywed, leihau’r teimlad o unigedd y gallwn ei gario o gwmpas pan fyddwn yn teimlo’n bryderus neu’n anniddig.

 

Beth mae sesiwn galw heibio yn ei ddarparu?

Bydd sesiynau galw heibio ac apwyntiadau yn darparu lle diogel, cyfrinachol ac anfeirniadol, lle gallwch drafod unrhyw bryderon o ran iechyd a lles a allai fod yn effeithio arnoch chi.

Mae hyn yn cwmpasu unrhyw heriau personol neu emosiynol y gallech fod yn eu profi.

 

Yr hyn nad ydym yn ei ddarparu 

Byddwch yn ymwybodol nad yw’r gwasanaeth hwn yn darparu cwnsela na chymorth therapiwtig arall, na chymorth mewn argyfwng iechyd meddwl neu argyfwng.

Lle mae eich anghenion y tu allan i’n harbenigedd, byddwn yn eich cyfeirio at wasanaethau perthnasol eraill.

 

Canllawiau i Unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth:

  • Trefnwch gael yr ymgynghoriad fideo neu’r alwad mewn man lle mae’n annhebygol y bydd eraill yn digwydd clywed eich sgwrs. Lle bo modd, defnyddiwch destun ysgrifenedig os yw’n anodd sicrhau hyn.
  • Efallai yr hoffech chi ddefnyddio clustffonau yn lle cael sain yr alwad yn dod allan o seinyddion gliniadur/cyfrifiadur personol i atal pobl rhag gallu clywed, ar ddamwain, ymatebion y person rydych chi’n siarad â nhw.
  • Os ydych chi am gyfeirio at unigolyn, mae’n syniad da newid eu henw a gadael i’r person rydych chi’n siarad â nhw wybod eich bod chi’n gwneud hyn trwy Skype (IM) – fel y gallwch chi siarad yn rhydd.
  • Bydd opsiwn i dderbyn e-bost dilynol, a fydd yn crynhoi’r sgwrs ac yn cynnwys cyfeirio at wasanaethau perthnasol. Efallai y byddai’n well gennych beidio ag argraffu unrhyw destun o’ch ymgynghoriad ar-lein ond yn hytrach ei gadw i ddogfen ddiogel ar eich dyfais i gyfyngu ar y tebygolrwydd y bydd eraill yn ei weld.

Noder – Mae yna wasanaethau cymorth eraill pe bai angen help arnoch ar frys.

 

Nid yw’r gwasanaeth Iechyd a Lles yn cynnig cymorth brys.

  • Os ydych chi mewn perygl ar hyn o bryd o niweidio’ch hun neu eraill: Ewch yn uniongyrchol i adran Damweiniau ac Achosion Brys eich ysbyty lleol i gael help.
  • Os ydych chi’n teimlo’n ofidus ac angen cymorth brys. Cysylltwch â’ch meddygfa i ofyn am apwyntiad brys
  • Os nad yw eich meddygfa ar agor, ffoniwch lein rhad ac am ddim y tu allan i oriau y GIG ar 111 opsiwn 2 (iechyd meddwl). Mae’r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
  • Gallwch ffonio’r Samariaid i siarad â rhywun 116 123 neu os yw’n well gennych, gallwch anfon e-bost at jo@samaritans.org   Mae’r gwasanaeth hwn ar gael unrhyw bryd, dydd neu nos – Ysgrifennir e-byst ac ymatebir iddynt yn Saesneg, ond mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer Siaradwyr Cymraeg yn unig ar 0808 164 0123.

 

Cyfrinachedd

Mae’n bwysig bod gennych hyder ac ymddiriedaeth lwyr yn ein gwasanaeth. Mae’r Gwasanaeth Iechyd a Lles yn gyfrinachol a bydd unrhyw wybodaeth am eich amgylchiadau unigol rydych chi’n dewis ei rhannu gyda ni yn cael ei gwarchod.

Yn unol â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol ar ddiogelu data, bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn barchus ac yn sensitif a’i rhannu ar sail “angen gwybod” yn unig.

Mae eithriadau i gyfrinachedd yn digwydd pan fydd y Swyddog Iechyd a Lles yn credu y gallech chi neu eraill fod mewn perygl o niwed difrifol, pan fydd pryderon ynghylch diogelu, a/neu pan fyddai aelod o’r tîm yn agored i weithdrefnau llys sifil neu droseddol pe na bai gwybodaeth berthnasol wedi’i datgelu.

Mewn amgylchiadau o’r fath, mae gwybodaeth ychwanegol yn cael ei chadw i’r lleiaf posibl a dim ond ar sail “angen gwybod” y caiff ei datgelu i bobl eraill perthnasol.

 

 

 

Eich data

Dim ond ar sail cydsyniad y byddwn yn prosesu’ch data. Gellir tynnu hwn yn ôl ar unrhyw adeg.

Sut rydyn ni’n rheoli’ch data

Byddwn yn cadw cofnodion cyfrifiadurol o’r holl wybodaeth a ddarparwyd gennych yn ystod eich sesiwn/sesiynau galw heibio. Mae hyn yn ein galluogi i gynnig gwasanaeth proffesiynol i chi a sicrhau eich bod yn derbyn cyngor a chymorth priodol. Mae’r holl ddata personol a sensitif yn cael ei brosesu yn unol â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol ar ddiogelu data. https://www.ceredigion.gov.uk/media/5083/information-and-records-management-policy-v20-cymraeg.pdf

 

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol a gweithio yn unol â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol ar ddiogelu data. Cesglir eich data fel y gallwn sefydlu cymorth perthnasol ac amserol. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae’r Gwasanaeth Lles yn prosesu ac yn defnyddio’r data personol a gasglwn gan y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaeth.

 

Pa ddata sydd gennym ni?

Mae ein cofnodion yn cynnwys:

  • Dynodyddion Personol a Gwybodaeth Fywgraffyddol – er enghraifft eich rhif gweithiwr.
  • Manylion Cyswllt – er enghraifft/neu gyfeiriad e-bost a rhif ffôn gwaith.
  • Data personol sensitif – er enghraifft, manylion pam yr hoffech ofyn am gymorth gan y Gwasanaeth Iechyd a Lles.
  • Dyddiadau cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda chi.
  • Unrhyw wasanaethau y gallech fod wedi eu cyfeirio atynt.

 

Sut ydyn ni’n defnyddio’ch data?

Mae’r gweithgareddau hyn yn hanfodol i’r gwasanaeth a gynigir gennym a bwriedir i bob neges fod yn barchus ac yn sensitif i’r rhai sy’n ceisio cymorth gan y Gwasanaeth Iechyd a Lles.

Gellir anfon negeseuon atoch trwy e-bost neu drwy Skype.

Mae’r Gwasanaethau Lles hefyd yn casglu gwybodaeth ystadegol arferol am bob cyswllt a wneir sy’n cael ei anonymeiddio yn ddiweddarach ac yn cael ei ddadansoddi at ddibenion archwilio a gwerthuso. Cymerir y gofal mwyaf i sicrhau na ddatgelir unrhyw wybodaeth y gellir ei hadnabod yn unigol

 

Rhannu eich data

Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych chi wrth ddefnyddio’r gwasanaeth galw heibio yn cael ei thrin fel data personol sensitif i sicrhau cydymffurfedd â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018 a Pholisi’r Cyngor ar Ddiogelu Data.

Mae hyn yn golygu na fyddwn yn rhannu’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu ag eraill oni bai eich bod chi wedi darparu eich cydsyniad.

 

Sut ydyn ni’n diogelu eich data?

Mae unrhyw wybodaeth a ddatgelir i’r Gwasanaeth Iechyd a Lles yn cael ei storio’n ddiogel a bydd ar gael i’r gwasanaeth yn unig.

Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn yn cadw’ch data ar ein cronfa ddata am flwyddyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r hysbysiad preifatrwydd hwn, mae croeso i chi gysylltu: iechydalles@ceredigion.gov.uk