Canllawiau ar Ddogfennau Adnabod y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Gwladolion y DU

Rhaid i wiriad adnabod gael ei wneud wyneb yn wyneb a rhaid iddo gynnwys dogfennau gwreiddiol i gyd. 

 Dylid cyflwyno dogfennau i’w gwirio yn un o’n Canolfannau Cyswllt Cwsmeriaid (sylwch fod ein llyfrgelloedd ar gau rhwng 1yp a 2yp bob dydd):


Aberystwyth

Canolfan Alun R. Edwards

Sgwâr y Frenhines

Aberystwyth

SY23 2EB

01970 633717

Dydd Llun – Dydd Gwener 09:30 – 16:00


Llanbedr Pont Steffan

Stryd y Farchnad

Llanbedr Pont Steffan

SA48 7DR

01570 423606

Agor: Dydd Llun – Dydd Gwener 09:30 – 16:30


Aberaeron

Neuadd Cyngor Ceredigion Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA

01545 572500

  • Llun: 09:00 – 18:00
  • Mawrth: 09:00 – 17:00
  • Mercher: 09:00 – 17:00
  • Iau: 09:00 – 17:00
  • Gwener: 09:00 – 16:30
  • Sadwrn: 10:00 – 13:00

Aberteifi

Swyddfa’r Cyngor

Stryd Morgan

Aberteifi

SA43 1DG

01545 574110

Agor: Dydd Llun – Dydd Gwener 09:30 – 16:00

Os cewch anhawster i gael mynediad i un o’n Canolfannau Cyswllt Cwsmeriaid, cysylltwch â ni ar 01970 633949 neu e-bost:  adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk


Darllenwch y ddogfen hon yn ofalus.  Os cyflwynir dogfennau anghywir, mae’n bosib y bydd rhaid i chi ymweld â Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid fwy nag unwaith.

Dylech gyflwyno o leiaf TAIR dogfen adnabod a fydd yn cadarnhau eich ENW (ac unrhyw newid enw), DYDDIAD GENI a’ch CYFEIRIAD PRESENNOL. Dyma’r dogfennau sydd eu hangen arnom:

  • Rhaid i UN ddogfen fod o Grŵp 1*
  • ADWY ddogfen arall o naill ai Grŵp 1, 2a neu 2b
  • Rhaid i’r ddogfen sy’n cadarnhau eich cyfeiriad presennol fod wedi’i PHOSTIO i’r cyfeiriad hwnnw o fewn y 3 mis diwethaf.
  • Rhaid i bob dogfen fod yn gyfredol a dilys.

> Mae canllawiau ar gyfer dogfennau adnabod derbyniol ar gael yma.

Os ydych chi’n ansicr am y dogfennau y mae’n rhaid i chi eu cyflwyno, ffoniwch 01970 633949 neu anfonwch e-bost i: adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk a byddwn yn fwy na pharod i’ch cynghori ar y dogfennau sydd eu hangen arnom.