Cyfle cyffrous i drawsnewid diwylliant eich sefydliad

Ydych chi’n Unigolyn Cyfrifol neu’n rheolwr cofrestredig gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion?

Allech chi ddefnyddio cefnogaeth i ddatblygu a chryfhau diwylliant eich sefydliad?

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn gweithdai i’w helpu dylunio ac archwilio ffyrdd ymarferol o adeiladu ar ddiwylliant eich sefydliad.

Trwy gymryd rhan, cewch gyfle i:

  • rannu beth sy’n gweithio, a sut mae’n cyfrannu at ddiwylliant cadarnhaol
  • drafod pa amgylcheddau gall feithrin diwylliant cadarnhaol
  • drafod sut i fesur gwelliant
  • fod yn rhan o’r gwaith o lunio diwylliannau gwaith cadarnhaol ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru

Bydd hefyd yn cyfrif tuag at eich oriau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru eisiau gwneud yn siŵr bod y cynnig yn adlewyrchu realiti’r sector. Felly, maent yn chwilio am gymysgedd amrywiol o ddarparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i gymryd rhan yn y rhaglen, gan gynnwys:

  • gofal preswyl
  • gofal cartref
  • gwasanaethau byw â chymorth
  • lleoliadau gofal cymdeithasol eraill i oedolion

Does dim ots os mai dim ond dechrau meithrin diwylliant cadarnhaol ydych chi, neu os ydych chi wedi bod yn gwneud hynny ers amser hir – gallwch helpu i wneud gwahaniaeth i ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd canfyddiadau’r gweithdai yn cael eu defnyddio i gefnogi mwy o sefydliadau i ddatblygu diwylliannau cadarnhaol yn y dyfodol.

Dyddiadau

Dim ond un o’r gweithdai sydd angen i chi ei fynychu a gallwch gyfrannu yn Gymraeg neu yn Saesneg. Gallwch archebu eich lle drwy ddefnyddio’r dolenni isod.

Gweithdai Unigolion Cyfrifol

  • Gweithdy 1: 24 Tachwedd, 9.30am i 11.30am
  • Gweithdy 2: 1 Rhagfyr, 2pm i 4pm

Gweithdai Rheolwyr Cofrestredig

  • Gweithdy 1: 26 Tachwedd, 2pm i 4pm
  • Gweithdy 2: 3 Rhagfyr, 9.30am i 11.30am

Ynglŷn â diwylliannau cadarnhaol

Gall diwylliannau cadarnhaol arwain at ganlyniadau gwell i bobl sy’n derbyn gofal a chymorth, yn ogystal ag i’r bobl sy’n darparu gofal a chymorth.

Dyna pam mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda Sefydliad Rayne i hyrwyddo a datblygu diwylliannau cadarnhaol ar draws gofal cymdeithasol. Gyda chefnogaeth Sefydliad Rayne, mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru i ddysgu am eu profiadau o gefnogi a mesur diwylliannau cadarnhaol yn eu sefydliadau.

I gael rhagor o wybodaeth am y Canllaw Cefnogi Diwylliannau Cadarnhaol, ewch i wefan y Grŵp Gwybodaeth.