Nodwch y bydd yr holl ddigwyddiadau hyfforddi yn cael eu darparu’n rhithiol oni nodir yn wahanol.
Gallwch weld ein hamserlen o ddigwyddiadau drwy glicio ar y tab ‘Hyfforddiant’.
Mae ymdrin â gwybodaeth bersonol gan Gyngor Sir Ceredigion yn bwysig iawn er mwyn darparu ein gwasanaethau a chynnal hyder y cyhoedd.
Data personol yw unrhyw ddata sy’n ymwneud â pheron y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’r wybodaeth. Mae’r termau ‘ gwybodaeth’ a ‘data personol’ yn cael eu defnyddio trwy gydol yr hysbysiad preifatrwydd hwn ac mae ganddynt yr un ystyr.
Felly, mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi’i lunio i egluro mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud gyda’ch data personol.
Y dibenion yr ydym yn defnyddio eich data personol ar eu cyfer
Mae tîm Dysgu a Datblygu Cyngor Sir Ceredigion yn gyfrifol am ddarparu, cyflwyno, cofnodi ac adrodd am hyfforddiant, ynghyd â cheisiadau panel cymwysterau a gweinyddu. Er mwyn cyflawni’r swyddogaethau hyn, ac i sicrhau eich bod yn gymwys i gael hyfforddiant a/neu gais am gymwysterau, rhaid i ni gasglu, a phrosesu data personol fel y nodir yn yr hysbysiad isod.
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i:
Y sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth yw
Mae Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) yn ei gwneud yn ofynnol i amodau penodol gael eu bodloni i sicrhau bod prosesu eich data personol yn gyfreithlon. Mae’r amodau perthnasol hyn isod:
Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill ac mae angen mwy o ddiogelwch. Mae hyn yn cael ei ystyried yn ‘ddata categori arbennig’ a gallai gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol neu aelodaeth undebau llafur a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn prosesu’r math hwn o ddata categori arbennig gan ei fod yn angenrheidiol am resymau:
Pa fath o wybodaeth rydym yn ei defnyddio?
Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi i ddarparu ein gwasanaethau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
Enw
Cyfeiriad
Dyddiad geni
Rhyw
Rhif/rhifau ffôn cyswllt
Cyfeiriad e-bost
Manylion cyflogwyr
Rôl bresennol
Delweddau/ffotograffau
Cenedligrwydd
Ethnigrwydd
Cyflyrau a hanes meddygol
Ydyn ni’n defnyddio gwybodaeth o ffynonellau eraill?
Rydym yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych chi, ond efallai y byddwn hefyd yn derbyn gwybodaeth o’r ffynonellau canlynol:
Eich rheolwr / person penodedig
Prifysgolion
Meysydd gwasanaeth eraill y Cyngor
Awdurdodau Lleol eraill
Trosglwyddo eich data dramor
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o feddalwedd i brosesu ein dogfennau/cofnodion electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy’n diogelu eich gwybodaeth. Mae’r data personol hwn yn cael ei gynnal ar weinyddion y tu mewn a’r tu allan i’r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE sy’n ddarostyngedig i’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Ni fydd eich data personol yn cael ei drosglwyddo y tu allan i’r UE.
Gyda phwy y gall eich gwybodaeth gael ei rhannu?
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau i gyflawni ein rhwymedigaethau o dan ein contract gyda chi, neu er ein buddiannau cyfreithlon, bydd hyn yn cynnwys:
Mae yna sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle mae’n bosibl y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, fel:
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn unol â’n canllawiau cadw a bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu’n ddiogel, unwaith nad oes ei hangen mwyach. Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Sir Ceredigion i gael rhagor o fanylion am ein rheolau cadw.
Eich hawliau diogelu data
Mae gennych hawl i:
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gennych hawl i:
Manylion cyswllt:
Am fwy o wybodaeth am yr hysbysiad preifatrwydd hwn a’ch hawliau, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Ceredigion County Council
Rhodfa Padarn
Aberystwyth
SY23 3UE