Nodwch y bydd yr holl ddigwyddiadau hyfforddi yn cael eu darparu’n rhithiol oni nodir yn wahanol.
Gallwch weld ein hamserlen o ddigwyddiadau drwy glicio ar y tab ‘Hyfforddiant’.
Mae Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (RhDGGCC) wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio mewn partneriaeth â Chyghorau Sir Gâr a Sir Benfro i reoli a darparu’r RhDGGCC yn lleol ac yn rhanbarthol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu i’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwasanaethau a gomisiynwyd a’r sector annibynnol / gwirfoddol. Rydym hefyd yn gweithio gydag ystod o bartneriaid gan gynnwys Iechyd a’r Heddlu i sicrhau bod gofynion rheoliadol yn cael eu bodloni, er enghraifft, y Fframwaith Cymwysterau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.
Mae’r RhGGCC yn darparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i bobl a gyflogir ym maes gofal cymdeithasol. Mae’n rhaid i chi fod yn weithiwr gofal cyflogedig neu’n gweithio i sefydliad gwirfoddol sy’n gofalu am bobl yn Ngheredigion i fod yn gymwys ar gyfer ein hyfforddiant.