Arfarniadau Blynyddol

Nod Perfformiad Staff – Gwerthusiad Blynyddol yw rhoi cyfle i weithwyr a’u rheolwyr adolygu eich cynnydd dros y flwyddyn flaenorol, cytuno ar amcanion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a nodi gofynion Dysgu a Datblygu (D & D) gyda’ch rheolwr. Mae’n gyfle i fyfyrio ar ofynion y gwasanaeth yn y dyfodol, a dyheadau gyrfa’r gweithiwr. Mae’r gwerthusiad blynyddol yn hanfodol i bob gweithiwr, a bydd yn darparu gwybodaeth werthfawr i’r sefydliad mewn perthynas â chynllunio gweithlu a chynnydd gwrthrychol.

Bydd yr arfarniad blynyddol bellach yn cael ei gofnodi ar-lein gan ddefnyddio system Ceri. Gall gweithwyr gwblhau eu tudalennau trwy hunan-wasanaeth, a gall rheolwyr gwblhau eu tudalenau trwy Rheolwyr Pobl Ceri. Fel hyn, bydd gwybodaeth yn ymwneud â chyflogaeth, hyfforddiant, sgiliau ac ati yn cael ei phoblogi a’i arbed yn awtomatig. Ceir cyfarwyddiadau mwy manwl ar Sylfaen Gwybodaeth Ceri.