Gwybodaeth Ychwanegol

Dysgu a Datblygu

Beth os na wnaeth y gweithiwr fynychu’r hyfforddiant a nodwyd ar ddechrau’r flwyddyn flaenorol?

Dylid trafod hyn gyda’r gweithiwr. Efallai y bydd esboniad rhesymol am hyn ac efallai yr hoffech ystyried trosglwyddo’r hyfforddiant i’r flwyddyn sydd i ddod.

Mae gan y gweithiwr gymal yn eu contract cyflogaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo/iddi ennill cymhwyster neu sgil o fewn cyfnod penodol o amser, ond ni chyflawnwyd hyn. Beth ddylwn i wneud?

Os yw’r gweithiwr wedi methu â bodloni gofyniad dysgu neu sgil cytundebol, trafodwch y rheswm am hyn. Efallai bod yna reswm sylfaenol, neu esboniad rhesymol am hyn.

Swyddi Lluosog a Rheoli Matrics

Mae gan Weithiwr sawl swydd, a fydd angen mwy nag un gwerthusiad?

Lle mae gan weithwyr fwy nag un contract, gyda rolau gwahanol, neu dimau ar wahân, bydd angen gwerthusiad ar gyfer pob swydd gyda amcanion perthnasol y cytunwyd arnynt ar gyfer pob un.

Mae gan Weithiwr fwy nag un Rheolwr, pwy sy’n cynnal yr arfarniad?

Lle mae rheoli matrics yn bodoli, bydd y rheolwr llinell enwebedig yn cynnal yr adolygiad gwerthuso. Fodd bynnag, gall y rheolwr llinell drafod amcanion, a gofyn am adborth gan reolwr perthnasol arall i’w gynnwys yn y cofnod gwerthuso.

Cytuno ar yr Amcanion

Beth sy’n digwydd os na all y rheolwr llinell a’r gweithiwr gytuno ar yr amcanion?

Os na ellir cytuno ar amcanion neu weithdrefnau monitro ar y cyd, y rheolwr llinell  sydd a’r penderfyniad terfynol. Gall y gweithiwr ychwanegu sylwadau i’r cofnod ar ddiwedd y broses. Dylid gwneud pob ymdrech i ddatrys unrhyw anghytundeb yn anffurfiol yn ystod y cyfarfod.  Gall gweithwyr gyfeirio at y Polisi Cwyno os na ellir datrys hyn.

Pwy all weld fy Arfarniad, a sut y caiff ei ddefnyddio?

Gall y gweithiwr, eu rheolwr llinell, a’r rheolwr llinell uniongyrchol uwchlaw hynny weld y ffurflen arfarnu.  Bydd Adnoddau Dynol yn derbyn adroddiadau a fydd yn ein cynorthwyo i adnabod:

• anghenion hyfforddiant ar draws y gwasanaeth
• gwasanaethau lle mae canran yr arfarniadau a gwblhawyd yn isel
• gwasanaethau neu grwpiau lle gall fod consyrn bod y canran lle cwblhawyd yr amcanion yn isel

A allaf ddiwygio’r  dyddiad cychwyn neu’r dyddiad terfyn ar gyfer amcan?

Gall y gweithiwr neu’r rheolwr llinell gofnodi bod amcan wedi’i gwblhau yn gynharach na’r dyddiad gosod gwreiddiol trwy nodi hyn yn y blwch sylwadau cynnydd amcanion.

Sut ydw i’n cofnodi cynnydd trwy gydol y flwyddyn?

Bydd y gweithiwr a’r rheolwr llinell yn gallu gweld y ddogfen ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, a gallant ychwanegu sylwadau cynnydd a fydd yn weladwy wrth adolygu amcanion ar ddiwedd y flwyddyn.

Beth os na all y gweithiwr gael mynediad i’r ffurflen Werthuso drwy Hunan Wasanaeth Ceri?

Dylai’r gweithiwr drafod unrhyw gonsyrn gyda’i rheolwr llinell, er mwyn canfod pa gefnogaeth sydd i’w gael.

Ble alla i gael copi o’r swydd ddisgrifiadau swydd?

Os yw’r swydd wedi cael ei hysbysebu trwy Ceri ers mis Mehefin 2016, ac os llwythwyd y disgrifiad swydd ar ‘Atodi Achos Busnes’, byddwch yn gallu gweld y disgrifiad swydd trwy Rheolwr Pobl Ceri. Neu os anfonwyd y disgrifiad swydd at AD ar gyfer ‘Gwerthuso Swyddi’, efallai y bydd copi ar gael.

 Os yw gweithiwr yn cael contract dros dro, a ddylid eu cynnwys yn yr arfarniad blynyddol?

Bydd pob aelod o staff a apwyntir yn derbyn Rhaglen Sefydlu Corfforaethol 6 mis ar ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth. Ar ddiwedd y rhaglen hon, bydd y gweithiwr yn derbyn adolygiad gan ei r(h)eolwr llinell, a gosodir amcanion a fydd yn ymestyn i ddechrau eu gwerthusiad blynyddol cyntaf ar 1 Ebrill. Os nad yw’r contract dros dro yn ymestyn i’r dyddiad hwn, dylid adlewyrchu hyn yn y cyfnod a nodir yn erbyn yr amcanion. Fodd bynnag, os rhagwelir y bydd y contract yn cael ei ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad hwn, dylid ystyried hyn a’i brosesu yn unol â hynny.